Wrth y drws yn curo . . .
Mae o'n gwestiwn hynod amserol yr adeg arbennig hon; Sut mae rhywun yn penderfynu pa Brifysgol i'w dewis?
Y dewis o gyrsiau? Ardal braf ? Nythaid o ddarlithwyr adnabyddus eu ysgolheictod? Enw da i'r cyrsiau? Cyfartaledd sy'n plesio o fechgyn a merched?
Siŵr iawn, bod rhywun yn meddwl am y pethau hyn ond yn ôl yr Americanwr Chris Cope yn ei lyfr, Cwrw am Ddim am ei hynt a'i helynt yn dysgu Cymraeg gall y rheswm am y dewis fod yn un llawer llai pwysfawr - fel ag yn ei achos ef yn dewis Prifysgol Caerdydd fel y lle i astudio'r Gymraeg.
Yr hyn drodd y fantol oedd hwylustod gwefan y coleg ac yn arbennig wefan Ysgol y Gymraeg yno.
Yr oedden nhw, yn ôl Chris, yn hawdd eu defnyddio ac yn "darparu mwy o wybodaeth nag a welais ar wefannau prifysgolion eraill" yng Nghymru.
Ar ben hynny yr oedd Caerdydd yn ateb yr e-byst oedd yn cael eu hanfon ati.
"Hint gyfeillgar" felly, chwedl Chris, i Brifysgolion eraill sydd am fanteisio ar arian myfyrwyr o wledydd tramor.
"Dylanwadwyd ar fy newis o brifysgol, yn rhannol gan yr amryw dudalennau 'Funding Your Degree' . . . a rhwyddineb eu defnyddio," meddai.
"Hefyd, dylech chi, brifysgolion eraill, ateb eich e-byst gyda'r troad. Yn fy achos i fel person na allai bopio draw am sgwrs a phaned jyst unrhyw bryd, adlewyrchir gwerthoedd a threfnusrwydd Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd gan ei medr i fyw a gweithredu yn y byd modern ac ateb ei he-bost," medda fo wedyn.
Sut bydd prifysgolion eraill Cymru yn ymateb i'r feirniadaeth fach yna tybed - a'r awgrym nad ydyn nhw'n byw a gweithredu yn y byd modern?