Adolygiad Glyn Evans o Cwrw am Ddim gan Chris Cope. Gomer 拢8.99.
Mae'r Americanwr Chris Cope yn gorffen yr hanes amdano'I hun yn dysgu Cymraeg iddo'i hun trwy ddweud:
"Ac yn awr yr wyf yn byw yng Nghymru fach ddel ac mae popeth yn hollol berffaith. The end. Diolch yn fawr iawn ichwi am ddarllen fy llyfr annwyl."Ond ar ddalen 80 o Cwrw am Ddim y dywed o hynny - ac mae 237 dalen i'r llyfr a phethau mawr yn digwydd i'r Americanwr ifanc ar y rheini.
Yr anghymwynas fwyaf y gallwn ei wneud 芒 darllenwyr - a'r awdur ei hun tasai'n mynd i hynny - fyddai manylu yngl欧n 芒'r pethau mawr hynny.
Digon yw dweud fod y cyfan yn afaelgar ac yn agoriad llygaid. Chymrai mo nhemtio i ddweud eu bod yn darllen fel nofel o gofio rhai o'r nofelau sy'n cael eu cyhoeddi.
Y Profiad Cymreig
Ar ben hynny, mae hanes ymgais Chris i feistroli'r iaith a chael gafael ar Y Profiad Cymreig sydd mor bwysig iddo ymhell o fod y stori dylwyth teg arferol flynyddol sy'n cael ei hadrodd noson Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - ac mae ganddo rywbeth i'w ddweud am y gystadleuaeth honno hefyd - ac mae hynny cyn tudalen 82.
Mae Chris Cope yn ddysgwr anarferol ac mae ganddo stori anarferol, wahanol, a honno'n stori sy'n cydio.
Nid yw'n cynnig y rhesymau clodwiw arferol dros ymgyryd 芒'r dasg.
Yn hytrach, o deimlo'n ddiflas un prynhawn a chyda dim byd arall gwell i'w wneud ond pori'r we mae'n penderfynu o ddod ar draws y Gymraeg ar wefan y 成人快手 ddysgu'r Gymraeg iddo'i hun trwy gymorth y ddywededig ryngrwyd a thapiau yn hytrach na gwersi wyneb yn wyneb - rhywbeth a fyddai wedi bod braidd yn anodd ym mherfeddion yr Unol Daleithiau.
Mae bodolaeth y llyfr yn dweud iddo lwyddo felly dydw i ddim yn datgelu unrhyw un o gyfrinachau'r gyfrol trwy ddweud hynny ond mae hon hefyd yn gyfrol am brofiad dyn yn ceisio "fy nghymwyso i'w chymdeithas" meddai.
Ac er na all, sawl gwaith, ateb y cwestiwn Pam? Mae'n dweud iddo deimlo "yn y b么n mod i fod i ddysgu'r Gymraeg; mae'n swnio'n rhyfedd ond dyna ni!"
Llyfr taith
Yn ei hanfod, llyfr taith ydi Cwrw am Ddim yn ddaearyddol ac yn drosiadol - a honno'n daith drofaus ar hyd ffordd ffordd garegog a garw.
Ac er yn lled ddisgrifio ei hun yn un lle fel "dim ond smartass o'r Unol Daleithiau" y mae Chris Pope yn un da i fod yn ei gwmni ar daith o'r fath.
Mae ganddo olwg wahanol ar bethau, mae'n ffraeth, yn opiniyngar ac yn meddu ar arddull sy'n eich hudo gydag ambell i dinc o Bill Bryson fwy nag unwaith.
Gellir mwynhau y ffordd mae'r llyfr hwn wedi ei sgrifennu gyda'i adleisiau o ddywediadau Americanaidd mewn geiriau Cymraeg.
Dawn plentyn
Weithiau, mae ganddo ddawn plentyn i ryfeddu at yr annisgwyl a'r hyn sy'n anghyffredin o'n i'r ymwelydd megis y ffaith fod rhaid gofyn yn benodol os ydych am i'ch tren aros yn stesion Conwy.
Fel hyn y mae o yn disgrifio ei hun:
"Person emosiynol ydw i yn y b么n. Rydw i'n hapusach pan nad ydw i'n meddwl gormod am bethau; mae'n well gennyf neidio i mewn i sefyllfa a wedyn delio 芒 hi fel y mae. OK, chwarae teg, nid dyna'r ffordd orau i fyw, ond mae yn haws. Ac yn fwy cyffrous."
Yr union berson felly i deithio taith yr iaith yn ei gwmni - hyd yn oed i'r iselfannau.
Mae'n daith sydd hefyd wedi golygu mwy iddo na dysgu geiriau.
"Mae'r Profiad Cymraeg fel crefydd. Amser maith yn 么l, pan es ati i ddysgu'r iaith meddyliais taw iaith yr oeddwn yn ei dysgu. Ond mae'n fwy na hynny, onid yw? Nid geiriau a gramadeg a chystrawen yn unig yw'r Gymraeg; mae'n ddiwylliant, yn bobl ac yn ddull o feddwl. Pan fo person yn dysgu'r Gymraeg disgwylir iddo ddysgu hefyd sut i fod yn Gymro. Yn fwy na hynny disgwylir iddo geisio bod yn Gymro," meddai.
Cyffes ffydd
Ymdrech yw dalennau olaf, go iawn, y llyfr i grynhoi ac i ddod at ei gilydd yr holl oblygiadau hyn pethau nad ydym ni'r Cymry Cymraeg yn ymwybodol ohonyn nhw efallai. Rhyw fath o gyffes ffydd.
"Nid Cymro ydw i," meddai. "Person sy'n siarad Cymraeg ydw i. Rhaid cyfaddef fy mod i'n cario chwerwedd tuag at lawer o'm profiadau."
Yn y llyfr cawn fyfyrion am sawl agwedd o'r 'Profiad Cymreig' o Gymry Cymraeg Caerdydd i'r Fro Gymraeg a'r Eisteddfod. Ar y naill law mae hynny'n ddiddorol a siawns nad oes gwersi i'w dysgu hefyd.
"Doeddwn i ddim yn ysgrifennu gyda'r amcan o wneud rhywun yn grac - doeddwn i ddim yn meddwl this will really annoy them, ond dwi yn ymwybodol y bydd pobl yn dweud eu bod nhw'n anghytuno 芒 mi. Dwi ddim yn ceisio bod yn rebel na dim byd fel'na, dwi jest yn ceisio mynegi fy hunan," meddai.
Dyrchafu dysgwyr
Mae tuedd yng Nghymru i ddyrchafu dysgwyr - hynny'n cael ei adlewyrchu yn y duedd gynyddol i sillafu'r gair a D fawr - ond mae'n ddifyr gweld y gall dysgwr fod yn enaid bregus iawn gyda phob math o fwganod i'w dychryn.
Diolch i Chris Cope am rannu peth o hynny 芒 ni ond diolch yn bennaf iddo am lyfr sy'n gyfuniad o'r difyr, y dwys a'r gafaelgar.
Ac mae'n dweud efallai y bydd wedi newid ei feddwl am rai pethau ymhen pum mlynedd a theimlo "gast o chwithdod" am gynnwys Cwrw am Ddim.
Edrychwn ymlaen at hynny, felly. Yn y cyfamser gallwn bob amser droi at .