Beth yw mudo?
Mudo yw symudiad pobl o un lle i'r llall. Mudwyr yw鈥檙 gair am y bobl hyn. Byddan nhw鈥檔 symud i dref neu ddinas arall, neu hyd yn oed i wlad arall.
Pam fod pobl yn mudo?
Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn dewis mudo. Efallai y byddan nhw'n symud i gael:
- gwell addysg ac ysgolion
- mwy o gyfleoedd gwaith
- hinsawdd gwell
- ardal fwy diogel i fyw
Enghreifftiau o fudo
Symudodd nifer fawr o bobl o un lle i'r llall i ddod o hyd i waith yn ystod y chwyldro diwydiannolCyfnod o amser yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif lle symudodd y DU i ddod yn wlad llawer mwy diwydiannol gan ddibynnu mwy ar beiriannau a鈥檙 defnydd o lo ac olew. Fe wnaethon nhw symud o gefn gwlad i ddinasoedd fel Manceinion a oedd yn tyfu鈥檔 gyflym ac i ardaloedd diwydiannol yng Nghymru.
O ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen dechreuodd Eidalwyr, a oedd wedi mudo i Gymru i chwilio am fywyd gwell, agor caffis, siopau hufen i芒 a siopau pysgod a sglodion. Mae llawer o'r rhain i'w gweld hyd heddiw.
Daeth mudwyr o'r Carib卯 i Brydain ar 么l yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod prinder gweithwyr. Empire Windrush oedd y llong fawr gyntaf i ddod 芒 phobl o Jamaica yn 1948. Cymerodd llawer ohonyn nhw swyddi ar y systemau trafnidiaeth. Aeth y merched hefyd i weithio fel nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd.
Fideo - Mudo a ffoaduriaid
Ffoaduriaid
Mae ffoaduriaid yn fudwyr sy'n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi. Mae'n rhaid iddyn nhw ffoi oherwydd:
- trychinebau naturiol
- diffyg bwyd a newyn
- rhyfel a gwrthdaro
Fel arfer mae'n rhaid i ffoaduriaid adael y rhan fwyaf o'u pethau ar 么l - eu ffrindiau, eu heiddo a phopeth sy'n annwyl iddyn nhw - ond maen nhw'n gwneud hynny, er mwyn bod yn ddiogel.
Bydd rhai ffoaduriaid yn mynd i wersylloedd ffoaduriaid mewn ardal neu wlad sy鈥檔 agos at lle maen nhw鈥檔 byw. Yn y pen draw mae rhai yn symud i wledydd newydd ac anghyfarwydd lle dydyn nhw ddim yn cael eu derbyn gan bawb. Mae rhai yn eu barnu am eu bod nhw鈥檔 ymddangos yn wahanol neu'n ofnus.
Ffoaduriaid o Syria
Yn 2011, fe ddechreuodd rhyfel cartref yn Syria, pan ddechreuodd pobl y wlad ymladd yn erbyn ei gilydd. Roedd y wlad yn lle peryglus iawn i fyw. Mae miliynau o Syriaid wedi cael eu gorfodi i symud - i ran arall o Syria neu i'r gwledydd sydd nesaf ati.
Ym mis Mawrth 2023 dywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fod 14 miliwn o Syriaid wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi. Mae llawer ohonyn nhw mewn gwledydd cyfagos fel Twrci, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Irac a鈥檙 Aifft.
Mae'r ffoaduriaid yn wynebu llawer o broblemau. Mae鈥檙 amodau byw yn wael yn y gwersylloedd ffoaduriaid gorlawn a dydyn nhw ddim yn gwybod pryd y gallan nhw fynd yn 么l i Syria.
Sut gallwn ni helpu ffoaduriaid?
Mae ffoaduriaid yn cyrraedd y DU bob blwyddyn. Er nad yw pawb yn hapus i鈥檞 gweld nhw, mae pobl eraill yn eu croesawu ac maen nhw'n gweld y mwyafrif o ffoaduriaid fel pobl gyffredin, sydd angen help a chefnogaeth. Maen nhw鈥檔 ceisio eu helpu mewn sawl ffordd fel:
- rhoi i elusennau sy'n darparu cymorth i bobl a gwledydd mewn angen
- rhoi croeso i ffoaduriaid trwy siarad 芒 nhw, neu gynnig cefnogaeth
- rhoi eitemau fel dillad, teganau a llyfrau i siopau elusennol sy'n helpu ffoaduriaid
Gweithgareddau
1. Tasg ysgrifennu creadigol
Cofnod dyddiadur
Dychmyga dy fod yn ffoadur. Ysgrifenna gofnod dyddiadur yn disgrifio sut rwyt ti wedi gorfod gadael dy wlad dy hun oherwydd perygl i ti a dy deulu. Canolbwyntia ar dy daith i gartref newydd, neu dy brofiadau ar 么l i ti gyrraedd.
Dylai dy waith:
- gael ei ysgrifennu yn y person cyntaf, ac yn yr amser gorffennol
- defnyddio iaith anffurfiol a naturiol, fel petaet ti yn siarad 芒 dy ddyddiadur
- cynnwys ansoddeiriau sy'n disgrifio dy deimladau
- disgrifio digwyddiadau allweddol sy'n cael effaith ar dy fywyd
2. Dewis pum eitem
Pe bai'n rhaid i ti adael dy gartref yfory, a dy fod ond yn cael pacio pum eitem, beth fyddet ti'n ei ddewis, a pham?
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6
- count4 of 6