Cyflwyniad
Mae angen i rywun neu ryw rhai wneud dewisiadau a phenderfyniadau er mwyn arwain a rheoli ein gwlad. Mae鈥檔 hollbwysig fod dinasyddion yn gwybod sut gallan nhw ddylanwadu ar y dewisiadau a鈥檙 penderfyniadau hyn.
Gwleidyddiaeth wladol
Mae鈥檔 bwysig i bleidleisio ac i gyfranogi mewn gwleidyddiaeth gan fod dy gynrychiolwyr yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau ar dy ran.
R么l Aelodau Seneddol San Steffan, Aelodau o鈥檙 Senedd ym Mae Caerdydd a chynghorwyr mewn llywodraeth leol yw gwneud penderfyniadau am sut i ddosrannu adnoddau ac arian.
Trwy bleidleisio a chyfranogi, mae dinasyddion yn medru mynegi eu barn wrth y bobl sy鈥檔 gwneud penderfyniadau am faterion fel:
- pryd mae鈥檙 sbwriel yn cael ei gasglu
- sut mae trydan yn cael ei gynhyrchu
- beth ddylai gael ei addysgu mewn ysgolion
Gwleidyddiaeth ryngwladol
Trwy bleidleisio yn etholiadau Cymru ac etholiadau鈥檙 Deyrnas Unedig (DU), mae etholwyr yn dylanwadu ar faterion ar draws y byd am nad oes ffin gan nifer o faterion mwyaf dadleuol ein byd, ee newid hinsawdd, datblygiad economaidd a hiliaeth. Nid yw鈥檙 rhain yn broblemau i Gymru neu'r DU yn unig. Fe fydd ASau yn cwrdd 芒 gwleidyddion o wledydd eraill i drafod y materion yma.
Pleidleisio mewn etholiadau
Gall pawb dros 16 oed yng Nghymru, sydd wedi cofrestru i bleidleisio, fwrw pleidlais yn etholiadau Cymru. Gall pawb dros 16 oed yng Nghymru hefyd bleidleisio i ddewis cynghorwyr.
Gall pawb dros 18 oed, sydd ar y gofrestr etholiadol, bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol sy鈥檔 ethol Aelodau Seneddol San Steffan.
Nid yw hi鈥檔 erbyn y gyfraith i beidio 芒 phleidleisio, ond pam fod pleidleisio yn cael ei ystyried yn bwysig?
- Democratiaeth
Mae pleidleisio yn ffordd bwysig o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae etholiadau yn sicrhau bod democratiaeth yn cael ei chynnal, gan mai鈥檙 etholwyr sy鈥檔 dewis pwy sy鈥檔 ennill p诺er. Gall etholwyr bleidleisio i ailethol yr un cynrychiolydd yn yr etholiad nesaf, neu bleidleisio dros ymgeisydd arall os nad ydyn nhw鈥檔 hapus.
- Creu cyswllt rhwng y bobl a鈥檙 llywodraeth
Gan mai democratiaeth gynrychioladol sydd gennym yn y DU, gwleidyddion, yn hytrach na dinasyddion, sy鈥檔 trafod, dadlau a gwneud penderfyniadau yn y Senedd. Mae pleidleisio yn bwysig felly fel ffordd o sicrhau bod dinasyddion yn rhan o鈥檙 broses o ddewis pwy sy鈥檔 eu cynrychioli.
- Dewis llywodraeth
Wrth bleidleisio dros gynrychiolydd i鈥檙 etholaeth, mae dinasyddion yn cyfrannu at y broses o ddewis y llywodraeth, gan mai鈥檙 blaid gyda鈥檙 nifer fwyaf o gynrychiolwyr sydd 芒鈥檙 hawl i ffurfio llywodraeth.
Ffyrdd eraill o gyfranogi mewn gwleidyddiaeth
Cyn dy fod di鈥檔 ddigon hen i bleidleisio, gelli di gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth mewn sawl ffordd arall.
Ymgyrchu
Gall dinasyddion sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed drwy lofnodi deiseb sy鈥檔 galw am newid. Gall pobl ifanc sy鈥檔 13 mlwydd oed neu'n h欧n hefyd wneud defnydd o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol i ddilyn grwpiau sy鈥檔 sefyll dros faterion sy鈥檔 agos at eu calonnau.
Protestio
Gall dinasyddion gynnal protest er mwyn tynnu sylw at achosion sy鈥檔 bwysig iddyn nhw ac er mwyn annog newid. Yn aml, mae dinasyddion yn protestio trwy orymdeithio a dal posteri sy鈥檔 esbonio eu dadleuon.
尝辞产茂辞
Does dim angen aros am etholiad i gysylltu 芒 chynrychiolydd. Gall dinasyddion e-bostio eu Haelod Seneddol neu Aelod o鈥檙 Senedd yn uniongyrchol ar unrhyw adeg. Yn ogystal, mae ASau ac Aelodau o鈥檙 Senedd yn cynnal sesiynau rheolaidd ble gall dinasyddion eu cwrdd i drafod materion.
Ymuno 芒 charfan bwyso
Gall dinasyddion ymuno 芒 charfan bwyso, sef gr诺p o bobl sydd am ddylanwadu ar bolis茂au鈥檙 llywodraeth ar fater penodol. Mae gan nifer sylweddol o garfanau pwyso fwy o aelodau na phleidiau gwleidyddol.
Ymuno 芒 phlaid wleidyddol
Gall dinesydd ymuno 芒 phlaid wleidyddol. Bydd hyn yn rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw helpu siapio polis茂au鈥檙 blaid, dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau a dewis arweinydd.
Gwleidyddiaeth go iawn
Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru
Gohebydd Ifanc y 成人快手
Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Easy peasy politics
Citizenship content for 11-14 year olds in Wales
More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth
Find out more by working through a topic
- count5 of 6
- count6 of 6
- count1 of 6
- count2 of 6