成人快手

Cyflwyniad

Mae鈥檔 bosib dy fod yn adnabod nifer o eiconau o鈥檙 byd chwaraeon neu o fyd cerddoriaeth, ond pwy yw eiconau鈥檙 byd gwleidyddol?

Darllena am y pum eicon yn y fideo a dysga am dri eicon gwleidyddol arall.

Kate Williams Evans

Dynes o Gymru oedd Kate a ymgyrchodd dros hawliau menywod yn gynnar yn y 1900au. Roedd hi'n un o'r Swffragetiaid - gr诺p o bobl, menywod yn bennaf - a brotestiodd i helpu ennill y bleidlais i ferched.

Treuliodd 54 diwrnod yn y carchar lle cafodd ei cham-drin a'i bwydo yn erbyn ei hewyllys tra ei bod ar streic newyn. Diolch i ferched dewr fel hi enillodd pob merch yr hawl i bleidleisio yn 1928.

Llinell / Line

Paul Robeson

Canwr, actor ac athletwr Americanaidd oedd Paul Robeson ac roedd ei dad wedi ei eni'n berson wedi ei gaethiwo. Roedd e'n byw yn Unol Daleithiau America ar adeg pan oedd pobl dduon yn cael eu trin yn wahanol i bobl wyn oherwydd deddfau Jim Crow. Roedd deddfau Jim Crow yn gwadu hawliau cyfartal i bobl dduon. Ymladdodd i newid hyn er gwaetha'r peryglon.

Pan glywodd e lowyr Cymru yn canu yn ystod protest yn Llundain yn y 1920au, penderfynodd Robeson orymdeithio gyda nhw. Daeth yn ffrind enwog i Gymru a'r glowyr, a oedd yn brwydro am eu hawliau ac yn byw mewn tlodi enbyd.

Nid yn unig defnyddiodd ei enwogrwydd i dynnu sylw at anhawsterau a chaledi bywydau pobl y dosbarth gweithiol, yn enwedig y glowyr yng Nghymru, ond rhoddodd lawer o arian ei hun i helpu hefyd.

Llinell / Line

Aneurin Bevan

Yn enedigol o Dredegar ac yn fab i l枚wr, Nye Bevan oedd y Gweinidog Iechyd ac un o'r bobl bwysicaf yn y llywodraeth Lafur ar 么l yr Ail Ryfel Byd. Fe oedd y dyn a helpodd i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (National Health Service).

Prif syniad y gwasanaeth iechyd yw bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim, yn seiliedig ar angen, nid cyfoeth. Dechreuodd y GIG ar 5 Gorffennaf 1948 ac mae wedi helpu miliynau o bobl.

Llinell / Line

Helen Thomas

Roedd Helen Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gymru. Yn 1989, fe ymunodd hi 芒 Gwersyll Heddwch Greenham Common er mwyn gwrthwynebu cadw arfau niwclear yno.

Cafodd y gwersyll ei sefydlu ar 么l i 36 o ferched gerdded yr holl ffordd o Gaerdydd i Greenham Common yn 1981. Roedd nifer wedi gadael eu teuluoedd a'u plant i brotestio yn erbyn y penderfyniad i roi arfau niwclear peryglus yn y DU.

Parhaodd hyn am 19 mlynedd gyda nifer yn cael eu harestio. Dau fis ar 么l cyrraedd, cafodd Helen ei lladd ar 么l cael ei tharo gan gar heddlu. Dim ond 22 oed oedd hi.

Daeth Helen yn symbol o'r protestiadau ac mae hyd yn oed c芒n wedi cael ei hysgrifennu amdani.

Llinell / Line

Greta Thunberg

Mae Greta Thunberg yn angerddol am y byd a'r argyfwng newid hinsawdd rydym yn ei wynebu. Daeth hi'n enwog am ei phrotest unigol pan oedd hi ond yn 15 oed.

Mae hi'n ymgyrchu ac yn defnyddio ei henwogrwydd i roi pwysau ar arweinwyr y byd. Mae hi wedi bod yn hynod o lwyddianus yn tynnu sylw at y difrod sydd yn cael ei wneud i'r byd.

Llinell / Line

Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi鈥檙 Glowyr

Roedd streic y glowyr (1984-1985) yn gyfnod caled i gymunedau glofaol de Cymru. Roedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn streicio er mwyn ceisio atal y pyllau glo rhag cau. Ond, wrth gwrs, tra roeddent yn streicio doedd y glowyr ddim yn gweithio, ac felly nid oeddent yn derbyn cyflog. Roedd hyn yn golygu bod arian yn brin iawn.

Pride Llundain 1984

Clywodd Mike Jackson a Mark Ashton, a oedd yn byw yn Llundain, am y caledi a oedd yn wynebu鈥檙 glowyr. Felly yn ystod gorymdaith Pride Llundain yn 1984 fe gasglon nhw arian mewn bwcedi er mwyn gallu cynnal y glowyr a鈥檜 teuluoedd, yn ne Cymru, ac i helpu talu am fwyd iddyn nhw.

Casglu arian

Penderfynodd Jackson ac Ashton bod angen gwneud mwy, ac felly sefydlwyd gr诺p o鈥檙 enw Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) gydag 11 o aelodau. Eu bwriad oedd i gefnogi cymunedau yng nghymoedd Dulais, Nedd a Tawe. Casglon nhw arian mewn tafarndai hoyw yn Llundain a ger y siop lyfrau 鈥楪ay鈥檚 the Word鈥. Eu prif lwyddiant oedd noson elusennol fawr ym mis Rhagfyr 1984 pan godon nhw 拢5,650 (gwerth dros 拢15,000 yn arian heddiw).

Pride Llundain 1985

Datblygodd cysylltiad cryf rhwng LGSM a glowyr de Cymru, ac ymunodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr a鈥檜 teuluoedd yng ngorymdaith Pride Llundain yn 1985 i ddiolch am gefnogaeth LGSM. Aeth y glowyr ati hefyd i ymgyrchu am gydraddoldeb i bobl hoyw yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yn 1985.

Llinell / Line

Steffan Lewis

Ganwyd Steffan Lewis yn 1984 a magwyd ef yn Crosskeys a Thredegar. Datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn fachgen ifanc yn ystod is-etholiad Islwyn yn 1995.

Gwleidydd ifanc

Roedd Steffan yn areithiwr o fri ac yn gallu cyfathrebu ei weledigaeth o'r hyn roedd e'n ei weld fel Cymru well yn fedrus. Cyflwynodd ei araith gyntaf i gynhadledd Plaid Cymru yn 14 mlwydd oed. Aeth ymlaen i gynrychioli pobl Coed Duon ar Gyngor y Dref cyn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifennu areithiau i Leanne Wood (arweinydd Plaid Cymru ar y pryd). Etholwyd Steffan Lewis i gynrychioli Dwyrain De Cymru fel Aelod Cynulliad yn 2016 鈥 yr Aelod Cynulliad ieuengaf ar y pryd.

Brwydro fel Aelod Cynulliad

Yn anffodus, canfuwyd ei fod yn dioddef o ganser yn 2017. Er gwaethaf hyn, fe barhaodd i weithio鈥檔 ddiwyd i frwydro dros ei etholwyr ac er mwyn sicrhau y gorau i Gymru yn dilyn Brexit. Pwysodd ar lywodraeth Cymru i sicrhau bod deddfau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru yn dilyn Brexit.

Bu farw yn Ionawr 2019 yn 34 oed.

Llinell / Line

Rosemary Butler

Ganwyd Y Fonesig Rosemary Butler yn 1943. Yn 1999 fe鈥檌 hetholwyd yn Aelod Cynlluniad Llafur ar gyfer Casnewydd, ac erbyn 2011 cafodd ei phenodi yn Llywydd benywaidd cyntaf y Senedd.

Ehangu cyfranogiad

Un o brif ddadleuon Y Fonesig Rosemary Butler tra ei bod yn y Senedd oedd y dylai mwy o bobl gael y cyfle i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a dylai gwleidyddiaeth Cymru fod yn fwy cydradd. Dadleuodd hi, er mwyn cynnwys mwy o bobl mewn gwleidyddiaeth, fod rhaid gostwng yr oed pleidleisio o 18 i 16. Cwestiynodd hi pam nad oedd gan bobl oedd yn ddigon hen i dalu trethi, priodi ac ymuno 芒鈥檙 fyddin yr hawl i ddewis pwy oedd yn arwain y wlad.

Trafodaethau

Dros gyfnod o chwe mis yn 2014 cymerodd Rosemary Butler ran flaenllaw mewn trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc 11-25 mlwydd oed i holi eu barn am ostwng yr oed pleidleisio. Roedd hyn yn ddylanwadol iawn i鈥檙 achos.

Gostwng yr oed pleidleisio

Ymddeolodd Y Fonesig Rosemary Butler yn 2016, ond yn 2017 fe bleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid caniat谩u i bobl 16 ac 17 mlwydd oed i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y 成人快手

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y 成人快手

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic