Beth yw ymerodraeth?
Ymerodraeth yw casgliad o wledydd neu diroedd sy鈥檔 cael eu rheoli gan un brenin, brenhines neu ymerawdwr. Yn aml, mae tiroedd ar gyfer creu ymerodraeth yn cael eu cipio drwy concwestGweithred o gymryd rheolaeth dros wlad neu dir. neu ryfeloedd. Cafodd yr Ymerodraeth Brydeinig ddylanwad ar y bobl a oedd yn byw yn y gwledydd wrth i鈥檞 harferion, iaith, gwleidyddiaeth, cyfreithiau a diwylliant gael eu heffeithio.
Yr Ymerodraeth Brydeinig
Dechreuodd sylfaen yr Ymerodraeth Brydeinig yn y 16eg a鈥檙 17eg ganrif, sef y 鈥榗yfnod o ddarganfod鈥. Yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, darganfyddodd Humphrey Gilbert, Newfoundland a鈥檌 hawlio i Loegr. Anturiaethwr, darganfyddwr ac Aelod Seneddol oedd Gilbert a oedd yn byw rhwng 1539-83. Parhaodd ei hanner brawd, Walter Raleigh i forio gan ddarganfod Ynys Roanoke, sydd yng Ngogledd Carolina heddiw.
Datblygodd yr ymerodraeth ymhellach yn ystod teyrnasiad Iago鈥檙 VI, wrth i diroedd yng Ngogledd America a鈥檙 Carib卯 ddod yn rhan o Brydain. Roedd Prydain yn awyddus i fanteisio鈥檔 economaidd ar adnoddau o dramor ac ymestyn eu dylanwad ledled y byd. Roedd sefydlu鈥檙 East India Company yn yr 17eg ganrif yn enghraifft o hyn. Sefydlwyd y cwmni yn 1600 i fasnachu gyda tiriogaethDarn o dir sy鈥檔 cael ei reoli gan wlad neu lywodraeth. de ddwyrain Asia. Parhaodd yr ymerodraeth Brydeinig i ddatblygu ac erbyn 1913, roedd yr ymerodraeth yn cynnwys 412 miliwn o bobl, sef 23 y cant o holl boblogaeth y byd.
Fideo - Ymerodraeth
Y fasnach gaethwasiaeth
Roedd llongau enfawr yn cael eu defnyddio i gludo pobl wedi eu caethiwo o Affrica i鈥檙 Americas dan amodau erchyll. Bu farw dros dwy filiwn o bobl o Affrica yn ystod y daith. Roedd y bobl wedi eu caethiwo yn gweithio ar blanhigfeydd yn tyfu tybaco, reis a siwgr ac roedden nhw鈥檔 cael eu trin mewn ffordd.
Gwnaeth yr elw a wnaed o fasnachu pobl wedi eu caethiwo roi arian i Brydain fuddsoddi mewn diwydiannau a rhoi cyfoeth i ddinasoedd megis Llundain.
Richard Pennant
Gwleidydd ac Arglwydd oedd Richard Pennant, sef Arglwydd Penrhyn, ac roedd yn berchen ar nifer o chwareli llechi yng Ngogledd Cymru. Roedd y teulu hefyd yn berchen ar chwe phlanhigfa siwgr yn Jamaica. Defnyddiodd yr elw o鈥檙 planhigfeydd i ddatblygu ei chwareli llechi, yn ogystal ag adeiladu Castell Penrhyn a oedd yn symbol o鈥檌 gyfoeth. Yn ei r么l fel Aelod Seneddol Lerpwl, dadleuodd Richard Pennant yn gryf yn erbyn dod 芒鈥檙 fasnach mewn pobl wedi eu caethiwo i ben oherwydd yr elw y gwnaeth porthladd y ddinas ei wneud o鈥檙 fasnach.
Syr Thomas Picton
Roedd Syr Thomas Picton yn swyddog y fyddin yn ystod rhyfeloedd NapoleonYmerawdwr (arweinydd) Ffrainc oedd Napoleon rhwng 1804 a 1815 ac arweiniodd Ffrainc mewn cyfnod o ryfeloedd gyda gwledydd Ewropeaidd eraill.. Cafodd ei ladd yn ystod brwydr Waterloo a鈥檌 gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain.
Yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, roedd yn adnabyddus am ei ddulliau creulon o drin pobl wedi eu caethiwo. Cafodd ei bledio鈥檔 euog am orchymyn i ferch 14 oed gael ei arteithioCam-drin neu gosbi rhywun drwy drais.. Yn 2020, pleidleisiodd Cyngor Caerdydd i gerflun o Picton gael ei dynnu lawr o Neuadd y Ddinas a phenderfynodd Amgueddfa Cymru symud portread ohono allan o olwg y cyhoedd.
Y teulu Bacon
Cafodd Gwaith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr ei sefydlu gan Anthony Bacon yn 1765. Roedd Anthony Bacon yn berchen ar longau a gafodd eu defnyddio i gludo pobl wedi eu caethiwo o Affrica i鈥檙 Carib卯. Yn dilyn hyn, cafodd yr arian ei fuddsoddi yn y Gweithfeydd Haearn.
Mae tystiolaeth fod yr haearn o鈥檙 gwaith wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer creu peli canon i longau oedd yn rhan o鈥檙 fasnach gaethwasiaeth ac i longau y defnyddiodd yr East India Company. Er nad yw鈥檙 cysylltiad yma yn un uniongyrchol, mae castell Cyfarthfa ym Merthyr yn dystiolaeth o鈥檙 elw y cafodd ei wneud o gaethwasiaeth.
Y Cymru a oedd yn erbyn y fasnach
William Williams, Pantycelyn
Mae William Williams yn cael ei ystyried fel un o brif emynwyr Cymru gan ei fod wedi ysgrifennu rhai o emynau pwysicaf yr iaith Gymraeg yn y 18fed ganrif. Roedd hefyd yn lleisio ei farn yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth. Yn 1792, Williams oedd un o鈥檙 Cymry cyntaf i gyhoeddi pamffled a oedd yn gwrthwynebu鈥檙 fasnach. Fe wnaeth hefyd gyfieithu stor茂au bywyd nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo er mwyn tynnu sylw at greulondeb y fasnach.
Iolo Morganwg
Cymro arall oedd yn lleisio ei farn yn erbyn pobl wedi eu caethiwo oedd sylfaenydd Gorsedd y BeirddCymdeithas o feirdd, llenorion a cherddorion a sefydlwyd gan Iolo Morgannwg yn 1792., Iolo Morganwg. Roedd gan Iolo siop yn y Bont-faen a cheisiodd osgoi gwerthu unrhyw beth a oedd yn gysylltiedig 芒 chaethwasiaeth. Er hyn, roedd dau o frodyr Iolo yn rhan o blanhigfa siwgr yn Jamaica ac yn berchen ar 240 o bobl wedi eu caethiwo. Pan wynebodd ef gyfnod o dlodi, gwrthododd arian gan ei frodyr i鈥檞 helpu, er iddo gytuno i鈥檞 dderbyn yn y diwedd.
Sut ddaeth y fasnach gaethwasiaeth i ben?
O鈥檙 1770au ym Mhrydain, dechreuodd mudiad i ddod 芒鈥檙 fasnach gaethwasiaeth i ben, sef diddymu caethwasiaeth. Cyfrannodd waith gwleidyddion, gweithwyr arferol, merched a thystiolaeth gan nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo at y mudiad diddymu caethwasiaeth ym Mhrydain.
Roedd gwleidyddion fel Thomas Clarkson a Granville Sharp yn ddiddymwyr blaenllaw. Yn 1787, gwnaethant sefydlu鈥檙 鈥楽ociety for Effecting the Abolition of the Slave Trade鈥, 芒鈥檙 nod o ymgyrchu dros ddod 芒鈥檙 fasnach i ben. Roedd William Wilberforce yn aelod seneddol a ddechreuodd gyflwyno cynigion gwrth-gaethwasiaeth yn y Senedd o 1789 ymlaen.
Roedd y Crynwyr yn gwrthwynebu鈥檙 fasnach gaethwasiaeth ym Mhrydain ac America yn gryf.
Chwaraeodd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain r么l allweddol 鈥 cafodd dros 500 o deisebDogfen sydd yn gofyn am newid sydd wedi ei lofnodi gan nifer o bobl., gyda dos 390,000 o lofnodion, eu cyflwyno i gefnogi mesur diddymu Wilberforce yn 1792.
Aeth nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo, fel Olaudah Equiano, Ottobah Cugoano a Phillis Wheatley ati i ymgyrchu dros ddiddymu鈥檙 fasnach gaethwasiaeth a sefydlu cymdeithasau, rhannu eu straeon a chyflwyno deisebau i鈥檙 Senedd.
Daeth pobl oedd wedi eu caethiwo o hyd i ffyrdd i ddangos eu gwrthwynebiad 鈥 cafodd Llywodraeth Prydain sioc o weld gwrthryfeloedd llwyddiannus gan bobl oedd wedi eu caethiwo yn Barbados, Jamaica a Demerara.
Dechreuodd llawer o bobl, a oedd yn ferched gan amlaf, foicotio siwgr a nwyddau eraill a oedd yn cael eu creu gan ddefnyddio pobl wedi eu caethiwo.
Deddf Diddymu鈥檙 Fasnach Gaethwasiaeth 1807
Cafodd Deddf Diddymu鈥檙 Fasnach Gaethwasiaeth ei phasio yn 1807 ei phasio gan Senedd y DU yn 1807. Daeth hyn 芒鈥檙 broses o brynu a gwerthu pobl a oedd wedi eu caethiwo dan yr Ymerodraeth Brydeinig i ben, ond nid oedd yn gwarchod y bobl a oedd eisoes wedi eu caethiwo. Gwnaeth llawer o gaethiwyddion barhau i fasnachu鈥檔 anghyfreithlon.
Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833
Ni chafodd y fasnach gaethwasiaeth ei diddymu鈥檔 llwyr yn yr Ymerodraeth Brydeinig tan Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833. Derbyniodd berchenogion planhigfeydd ledled yr Ymerodraeth Brydeinig 拢20 miliwn, sy鈥檔 werth tua 拢17 biliwn yn arian heddiw, mewn iawndal. I鈥檙 gwrthwyneb, ni chafodd y bobl a oedd yn cael eu rhyddhau unrhyw iawndal.
Cwis - Ymerodraeth
More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 2