Cyflwyniad
Efallai fod hwn yn edrych fel planhigyn morol cyffredin iawn, ond oeddet ti鈥檔 gwybod bod gan forwellt (seagrass) rym enfawr i wrthdroi鈥檙 newid yn yr hinsawdd?
Mae鈥檙 glaswellt cyffredin hwn, sy鈥檔 tyfu ar wely鈥檙 m么r, wedi cael ei ddisgrifio fel 鈥榩lanhigyn gwyrthiol鈥. Mae ganddo鈥檙 gallu anhygoel i amsugno nwy carbon deuocsid o鈥檙 atmosffer.
Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod gan forwellt r么l hanfodol i鈥檞 chwarae yn y frwydr i wrthdroi newid hinsawdd.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae ein planed yn cynhesu. Rydyn ni'n galw hyn yn gynhesu byd-eang. Mae carbon deuocsid yn un o'r nwyon sy鈥檔 cyfrannu at y broses hon.
Mae鈥檔 cael ei alw鈥檔 nwy t欧 gwydr, sy鈥檔 golygu ei fod yn dal gwres yn atmosffer y Ddaear. Wrth i鈥檙 nwyon t欧 gwydr hyn gronni, neu ymgasglu, maen nhw鈥檔 ffurfio 鈥榖lanced鈥 anweledig sy鈥檔 trapio gwres o鈥檙 Haul. Mae hyn yn achosi i'r tymheredd godi yma ar y Ddaear, sy'n gwneud ein tywydd yn annarogan (unpredictable) ac yn fwy eithafol (extreme).
Beth allwn ni ei wneud am hyn?
Mae angen i ni leihau, neu dorri i lawr ar faint o garbon deuocsid rydyn ni鈥檔 ei ryddhau i鈥檙 atmosffer. Yr enw ar hyn yw lleihau 么l troed carbon. Rydyn ni'n gallu gwneud hyn drwy leihau faint o tanwydd ffosilTanwydd sy'n gallu cael ei losgi ar gyfer ynni sydd wedi鈥檌 wneud o blanhigion ac anifeiliaid yn dadelfennu. fel olew, glo a nwy rydyn ni鈥檔 ei losgi.
Mae angen i ni hefyd leihau faint o garbon deuocsid sy鈥檔 bodoli eisoes yn yr amgylchedd. Dyma pam mae coed a phlanhigion eraill mor bwysig. Maen nhw鈥檔 amsugno carbon deuocsid o鈥檙 atmosffer, yn storio鈥檙 carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn 么l i鈥檙 amgylchedd.
Ysgyfaint y Ddaear
Mae coedwig law'r Amazon yn ne America yn cael ei disgrifio鈥檔 aml fel ysgyfaint ein planed. Mae hyn oherwydd ei gallu i amsugno cymaint o garbon deuocsid y Ddaear a chynhyrchu ocsigen.
Mae鈥檙 coed yn amsugno carbon deuocsid o鈥檙 atmosffer, yn storio鈥檙 carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn 么l i鈥檙 amgylchedd.
Beth yw morwellt?
Yn union fel coed a phlanhigion ar y tir, mae morwellt yn gallu amsugno symiau enfawr o garbon deuocsid o鈥檙 m么r. Mae鈥檔 storio鈥檙 carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn 么l i鈥檙 amgylchedd.
Ond mae gan forwellt hefyd oruwchb诺er (superpower). Mae鈥檔 gallu amsugno symiau enfawr o garbon deuocsid. Bob blwyddyn mae morwellt yn amsugno cymaint 芒 10% o garbon deuocsid y m么r.
Mae鈥檙 un arwynebedd o forwellt yn gallu amsugno 35 gwaith cymaint o garbon deuocsid ag arwynebedd o goedwig law drofannol (tropical rainforest).
Mae鈥檙 gwelyau morwellt hyn hefyd yn darparu鈥檙 cynefin, neu鈥檙 cartref, perffaith i filoedd o wahanol rywogaethau (species) o anifeiliaid.
Goruwchbwerau morwellt
- Mae morwellt yn gallu tynnu carbon o鈥檙 atmosffer tua 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol.
- Mae morwellt yn cynhyrchu ocsigen.
- Mae morwellt yn gynefin tanddwr pwysig i filoedd o wahanol rywogaethau o anifeiliaid.
Ond mae鈥檙 cynefin tanddwr anhygoel hwn dan fygythiad. Yn y Deyrnas Unedig, mae ymchwilwyr yn credu bod tua 92% o鈥檔 morwellt wedi cael ei golli yn ystod y ganrif, neu鈥檙 can mlynedd, diwethaf.
Mae morwellt bellach mewn perygl difrifol, sy鈥檔 golygu bod yn rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw morwelltau鈥檔 diflannu鈥檔 llwyr. Ledled y byd, mae cymunedau o wyddonwyr yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.
'Project Seagrass'
Yng Nghymru, mae t卯m o wyddonwyr yn benderfynol o helpu gwelyau morwellt i gael adferiad. Maen nhw'n gweithio鈥檔 galed i gasglu dros filiwn o hadau morwellt a鈥檜 hailblannu yn Dale, Sir Benfro.
Mae biolegwyr morol yn brysur yn ailblannu egin morwellt. Cyn bo hir, maen nhw鈥檔 gobeithio y bydd yr ardal yn dd么l forwellt ffyniannus (booming), fel carped ar lawr y m么r sy鈥檔 amsugno tunelli a thunelli o garbon.
Fideo: Dolydd morwellt, cynefin tanddwr pwysig
Beth alli di ei wneud?
Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth a helpu i leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer.
- Plannu coeden gartref neu yn yr ysgol.
- Os ydy hi'n ddiogel ac yn ymarferol i wneud, beth am gerdded neu feicio i鈥檙 ysgol?
- Diffodd goleuadau a dyfeisiau trydanol.
Cwis: All morwellt arafu newid hinsawdd?
Ble nesaf?
Sut mae newid hinsawdd yn newid glan m么r?
Darganfydda fwy am sut mae nwyon t欧 gwydr, cynhesu byd-eang, a'r capiau i芒 sy'n toddi yn effeithio ar bentref Fairbourne yng ngogledd Cymru.
Pwy yw ysglyfaethwyr y M么r Celtaidd?
Dysga am y gwahanol greaduriaid sy'n byw yn nyfnderoedd y m么r o amgylch Cymru.
Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed
More on Hinsawdd
Find out more by working through a topic
- count2 of 2