Natur newidiol plismona yn yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif
Strwythur newidiol heddluoedd
Yn 1900 roedd yna 181 o heddluoedd ym Mhrydain. Roedd nifer o鈥檙 rhain yn fach ac roedd gan bob un wahanol strwythurau, dulliau a chofnodion. Doedd dim llawer o gysylltiad rhyngddyn nhw.
Heddlu De Cymru yw鈥檙 un mwyaf yng Nghymru, a dyma鈥檙 seithfed mwyaf yn y DU. Fe鈥檌 ffurfiwyd yn 1969 pan unodd Heddlu Morgannwg 芒 Heddlu Dinas Caerdydd, Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tydfil a Heddlu Bwrdeistref Abertawe.
Yn 2006 awgrymwyd y dylai pedwar heddlu Cymru uno i ffurfio un heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd eto.
Swyddogion yr heddlu
Mae nifer swyddogion yr heddlu wedi cynyddu yn ystod yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif. Roedd yna dros 125,000 o swyddogion erbyn 2000. Mae鈥檙 heddlu wedi recriwtio swyddogion benywaidd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Sofia Stanley oedd y ferch gyntaf i gael ei recriwtio鈥檔 swyddogol gan Heddlu Metropolitan yn 1919. Yn ddiweddar ceisiwyd cynyddu nifer y swyddogion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Sefydlwyd Coleg Hyfforddi Cenedlaethol yr Heddlu yn 1947. Erbyn hyn mae swyddogion yr heddlu yn derbyn mwy o arweiniad ac yn derbyn 14 wythnos o hyfforddiant cyn iddynt ddechrau arni.
Pwrpas plismona
Mae pwrpas yr heddlu wedi newid yn yr oes fodern. Ar y cychwyn, r么l yr heddlu oedd:
- patrolio鈥檙 strydoedd
- atal troseddwyr
- ymchwilio i droseddau
- arestio rhai dan amheuaeth
Erbyn hyn mae eu r么l a鈥檜 pwrpas yn canolbwyntio鈥檔 gynyddol ar atal troseddu. Mae gan bob heddlu Swyddogion Atal Troseddu sy鈥檔 ymweld ag ysgolion ac yn mynychu cyfarfodydd cymunedol megis PACT.
Mae鈥檙 heddlu yn ceisio meithrin mwy o gysylltiadau 芒鈥檙 gymuned, yn arbennig ar 么l i lawer o reiadau yn ystod y 1980au gael eu hanelu at yr heddlu. Mae鈥檙 heddlu yn gysylltiedig 芒 chynllun Gwarchod Cymdogaeth a ddechreuwyd yn 1982.
Ond yn ddiweddar mae鈥檙 heddlu wedi ymdrechu i gael eu gweld allan o鈥檜 ceir ac 'ar y b卯t', neu ar feiciau. Yn aml, nid dyma鈥檙 ffordd orau o ganfod troseddau a dal troseddwyr, ond mae鈥檔 rhoi sicrwydd i鈥檙 cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod un o鈥檜 prif bwrpasau wedi aros yr un fath, sef patrolio鈥檙 strydoedd.