Pam y mae rhai cymunedau arfordirol yn agored i niwed?
Mae tri phrif ffactor sy’n gwneud yr arfordir yn fwy agored i niwed – ffisegol, cymdeithasol ac economaidd.
Ffactorau ffisegol
- Tywydd difrifol – mae cyfnodau maith a rheolaidd o dywydd difrifol, er enghraifft gwyntoedd tymhestlog, yn gwneud rhai ardaloedd yn llawer mwy agored i niwed na’i gilydd.
- Peryglon naturiol – mae digwyddiadau sy’n anodd eu rhagweld, er enghraifft tsunami, yn broblem fawr, yn enwedig i wledydd sydd wedi’u lleoli ar ffiniau platiau, neu’n agos atynt.
- Newid hinsawdd – wrth i’r byd gynhesu (cynhesu byd-eang), mae’r capiau iâ pegynol yn toddi, ac mae hynny’n achosi i lefel y môr godi. Mae hyn yn fygythiad i ardaloedd arfordirol.
- Uchder tir a’r pellter o’r arfordir – mae rhai darnau o dir yn suddo. Mae disgwyl i lefel y môr godi dros 50 cm erbyn 2100, felly mae ardaloedd isel yn agored iawn i niwed. Mae pobl sy’n byw ar yr arfordir ei hun hefyd mewn perygl o ganlyniad i dirlithriadau ac effeithiau erydiad arfordirol.
- Y math o graig (daeareg) – mae craig feddal yn erydu’n llawer cyflymach na chraig galed, ac mae hynny’n golygu bod ardaloedd yn nwyrain Lloegr yn aml yn fwy agored i niwed nag ardaloedd yng ngorllewin y DU, lle mae’r graig at ei gilydd yn fwy caled.
Ffactorau cymdeithasol
- Addysg – yn aml iawn mae pobl sydd heb gael llawer o addysg yn cael mwy o anhawster deall beth i’w wneud, a dilyn cyfarwyddiadau neu gyngor.
- Oed ac iechyd – pobl hŷn sy’n cael trafferth symud, neu rai sydd heb rywun i’w helpu. Mae merched beichiog, plant a phobl sydd ag anabledd hefyd yn agored iawn i niwed.
- Dwysedd poblogaeth – po fwyaf o bobl sy’n byw mewn ardaloedd peryglus, y mwyaf y bygythiad.
- Yr adeg o’r dydd – os bydd trychineb naturiol yn digwydd yn ystod oriau mân y bore, efallai y bydd llawer o bobl yn methu â dianc oherwydd eu bod yn cysgu. Os bydd yn digwydd ganol dydd neu ar adegau prysur, efallai y bydd llawer o bobl yn methu â gadael lle penodol.
Ffactorau economaidd
- Cyfoeth unigolyn neu gymuned – yn aml iawn mae pobl ddi-waith neu bobl sy’n derbyn budd-daliadau yn methu â fforddio diogelu eu hunain. Mewn gwledydd incwm isel (LICs), mae’r bobl fwyaf tlawd yn y byd yn aml iawn yn byw mewn slymiau, mewn tai wedi’u gwneud o ddeunydd sgrap, sy’n methu gwrthsefyll tywydd gwael.
- Ansawdd gwasanaethau brys ac amddiffynfeydd arfordirol – mae llawer o wledydd incwm isel yn methu â fforddio diogelu eu hunain o gwbl. Efallai y bydd gwledydd incwm uchel (HICs) yn ei chael yn anodd adeiladu a chynnal amddiffynfeydd arfordirol yn y tymor hir oherwydd cyllidebau a blaenoriaethau eraill.
- Ansawdd strwythurau wedi’u gwneud gan ddyn er mwyn gwrthsefyll grym natur – mae strwythurau mawr mewn HICs yn aml iawn wedi cael eu cynllunio i wrthsefyll tywydd eithafol a rhai trychinebau naturiol. Yn aml iawn, fodd bynnag, nid yw strwythurau wedi’u gwneud gan ddyn mewn LICs wedi cael eu hadeiladu’n dda iawn ac maen nhw’n agored i niwed.