成人快手

Achosion troseddTwf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid

Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn troseddu. Mae rhai o鈥檙 achosion yma wedi bodoli erioed, megis trachwant, tlodi a chaledi economaidd. Mae achosion trosedd eraill wedi newid ers 1500. Beth oedd prif achosion trosedd dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Twf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid

Newidiadau economaidd

Yn ystod y 16eg ganrif, roedd yna gynnydd sydyn yn nifer y .

Llun o gardotyn
Image caption,
Llun o ddau gardotyn - ar 么l lluniau gan Jacques Callot (1592-1635)

Ystyriwyd bod crwydraeth yn drosedd ddifrifol yn oes y Tuduriaid. Ar y pryd, roedd nifer o bobl yn credu bod crwydraeth yn cael ei achosi gan ddiogi. Roedd pobl yn meddwl bod crwydriaid yn bobl wan a diog.

Roedd rhai pobl yn beio鈥檙 crwydriaid eu hunain am feddwdod. Roedd eraill yn credu bod crwydriaid wedi cael eu geni gyda nam oedd yn eu harwain i ddiogi a throseddu.

Roedd nifer o bobl yn teimlo o dan fygythiad gan eu presenoldeb, gan gredu eu bod yn lledaenu鈥檙 pla neu'n debygol o achosi gwrthryfel, gan fod rhai yn gyn-filwyr. Wrth ymateb i hynny, gwnaeth Deddfau Tlodion Oes Elisabeth rhwng 1598 a 1601 bob plwyf yn gyfrifol am ofalu am eu tlodion a chosbi cardotwyr.

Ond roedd yna lawer o bwysau economaidd yn ystod y ganrif hon oedd yn egluro鈥檙 cynnydd mewn tlodi a throsedd crwydraeth.

Roedd poblogaeth Cymru a Lloegr yn cynyddu yn ystod y 16eg ganrif. Roedd hynny鈥檔 golygu bod mwy o bobl yn cystadlu am swyddi a thir.

Roedd Lloegr yn dod yn wlad gyfoethocach o ganlyniad i fwy o fasnachu. Roedd rhai masnachwyr a thirfeddianwyr yn mynd yn gyfoethocach. Ond, roedd y rhan fwyaf o鈥檙 bobl yn dal yn dlawd iawn.

Diweithdra

Roedd nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant brethyn. Pan aeth y diwydiant brethyn drwy gyfnod o ddirwasgiad, collodd gwehyddion a nyddwyr eu swyddi a鈥檜 hincwm.

Nid yn y diwydiant brethyn yn unig yr oedd diweithdra鈥檔 broblem. Fe wnaeth Harri VII ddadfyddino鈥檙 byddinoedd preifat oedd yn bodoli yn ystod . Arweiniodd hynny at nifer o ddynion yn colli eu swyddi. Collodd nifer o bendefigion eu cyfoeth yn ystod y rhyfeloedd yma, felly roedden nhw'n dechrau cyflogi llai o bobl ar eu tir a鈥檜 hystadau.

Tenantiaid fferm

Roedd nifer o bobl yn oes y Tuduriaid yn denantiaid fferm oedd yn rhentu neu鈥檔 prydlesu tir gan bendefigion neu fasnachwyr cyfoethog. Cododd cost rhentu tir yn gyflym, a alwyd yn rhac-rentu. Dechreuodd ffermwyr a masnachwyr mwy cyfoethog amgylchynu eu tir, a鈥檌 ddefnyddio ar gyfer ffermio defaid. Felly roedd nifer o denantiaid heb unrhyw dir rhent.

Roedd tenantiaid fferm yn ddibynnol ar y cynhaeaf er mwyn goroesi. Bu nifer o gynaeafau gwael yn ystod y 16eg ganrif, yn arbennig yn 1556, 1596 a 1597. Arweiniodd y ffactorau hynny at ddiboblogi gwledig - gweithwyr yn gadael cefn gwlad er mwyn chwilio am swyddi yn y trefi.

Chwyddiant

O ganlyniad i chwyddiant, gwaethygu wnaeth y tlodi. Cododd prisiau nwyddau hanfodol, gan gynnwys bwyd, wrth i'r boblogaeth dyfu, gan orfodi rhai pobl i adael eu cartrefi i chwilio am gymorth a bwyd.

Roedd y cynnydd mewn trethi i dalu am ryfeloedd tramor yn erbyn Ffrainc, yr Alban a Sbaen hefyd yn gwneud pobl yn dlotach, a gwaethygu wnaeth lefelau chwyddiant.

Diddymu鈥檙 mynachlogydd

Yn sgil o dan Harri VIII, cynyddodd nifer y di-waith (mynachod, gweision a labrwyr), ac ar yr un pryd, diflannodd y cymorth a ddarparwyd gan y mynachlogydd i鈥檙 tlawd a'r s芒l.

Abaty Tyndyrn, mae llawer o 么l tywydd ar y waliau llwyd ac mae鈥檙 ffenestri a鈥檙 to ar goll o'r strwythur.
Image caption,
Olion Abaty Tyndyrn ar 么l diddymu鈥檙 mynachlogydd