成人快手

Y DdaearDrifft cyfandirol (tectoneg platiau)

Mae adeiledd y Ddaear yn cynnwys y gramen, y fantell, y craidd allanol a'r craidd mewnol. Mae'r gramen a'r rhan uchaf o'r fantell wedi'u torri'n blatiau tectonig. Datblygodd y gwyddonydd o'r Almaen, Alfred Wegener, ddamcaniaeth drifft cyfandirol i esbonio sut cafodd mynyddoedd eu ffurfio.

Part of CemegY Ddaear sy'n newid yn barhaus

Drifft cyfandirol (tectoneg platiau)

Cafodd damcaniaeth drifft cyfandirol ei chynnig ar ddechrau鈥檙 ganrif ddiwethaf gan y gwyddonydd o鈥檙 Almaen, Alfred Wegener.

Cyn i Wegener ddatblygu ei ddamcaniaeth, roedd pobl yn meddwl bod mynyddoedd yn ffurfio am fod y Ddaear yn oeri, ac wrth iddi oeri, ei bod hi鈥檔 . Roedd y broses hon yn ffurfio rhychau, neu fynyddoedd, ar gramen y Ddaear.

Pe bai hyn yn wir, byddai鈥檙 un faint o fynyddoedd ym mhob rhan o arwyneb y Ddaear. Rydyn ni鈥檔 gwybod nad yw hyn yn wir.

Damcaniaeth Wegener

Awgrymodd Wegener fod mynyddoedd yn ffurfio wrth i ymyl un cyfandir sy鈥檔 drifftio wrthdaro ag un arall, gan achosi iddo grychu a phlygu. Er enghraifft, ffurfiodd yr Himalayas wrth i India wrthdaro ag Asia.

Cymerodd hi dros 50 mlynedd i ddamcaniaeth Wegener gael ei derbyn. Un o鈥檙 rhesymau oedd ei bod hi鈥檔 anodd deall sut byddai cyfandiroedd cyfan yn gallu symud. Roedd rhaid aros tan yr 1960au i gael tystiolaeth o gerhyntau darfudiad yn y fantell i ategu鈥檙 ddamcaniaeth yn llawn.

Mae鈥檙 sioe sleidiau hon yn esbonio damcaniaeth Wegener.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Y Ddaear 芒'r cyfandiroedd i gyd wedi uno'n un archgyfandir., Damcaniaeth Wegener Y Ddaear tua 200 miliwn o flynyddoedd yn 么l. Mae鈥檙 cyfandiroedd i gyd wedi uno鈥檔 un archgyfandir

Tystiolaeth o ddrifft cyfandirol

Beth oedd y dystiolaeth o blaid damcaniaeth Wegener?

  • Mae鈥檙 ffaith bod si芒p arfordir dwyreiniol De America yn cyd-fynd ag arfordir gorllewinol Affrica yn awgrymu bod y ddau鈥檔 arfer bod yn rhan o un cyfandir (mae hyn yn golygu bod amlinellau鈥檙 cyfandiroedd yn ffitio 芒鈥檌 gilydd fel jig-so).
Map yn ategu damcaniaeth Wegener, yn dangos holl gyfandiroedd y byd wedi uno 芒'i gilydd.
  • Mae patrymau tebyg o greigiau ar y ddwy ochr i鈥檙 Iwerydd.
  • Mae ffosiliau tebyg ar y ddwy ochr i鈥檙 Iwerydd 鈥 gan gynnwys gweddillion ffosil anifeiliaid tir fyddai wedi methu nofio ar draws o un ochr i鈥檙 llall.
Map yn ategu damcaniaeth Wegener, yn dangos holl gyfandiroedd y byd wedi uno 芒'i gilydd, gan gynnwys y mannau lle mae ffosiliau o weddillion anifeiliaid tir wedi cael eu canfod.

More guides on this topic