Cyflwyniad
Mae鈥檔 anodd dychmygu bod un o ysglyfaethwyr mwyaf y m么r heb esgyll na dannedd miniog fel rasel. Prif ysglyfaethwr y moroedd yw ni, yr hil ddynol (human race).
Drwy鈥檙 byd i gyd, rydyn ni mor effeithiol wrth bysgota erbyn hyn fel ein bod wedi achosi dirywiad enfawr, neu ostyngiad, ym mhoblogaethau bywyd gwyllt y m么r. Sut mae pysgota wedi newid a sut mae hyn yn effeithio ar y gadwyn fwyd?
Mae nifer y cimychiaid (lobsters) a physgod yn ein moroedd, yn ogystal 芒 bywyd morol arall, yn gostwng. Sut mae hyn yn digwydd?
Beth yw gorbysgota
Mae鈥檙 lleihad yn nifer y bywyd morol yn cael ei achosi gan orbysgota. Mae hyn yn golygu ein bod yn cymryd gormod o bysgod, cimychiaid a bywyd morol o鈥檙 m么r. Rydyn ni'n dal cymaint o un rhywogaeth (species) fel nad yw鈥檙 rhywogaeth honno yn gallu cael ei chefn ati a dod yn 么l i鈥檙 niferoedd arferol. Mae hyn wedi gostwng niferoedd rhai rhywogaethau nes eu bod yn isel iawn, a byddai hyn hyd yn oed yn gallu arwain at farwolaeth rhywogaethau eraill.
Mae pysgota wedi newid
Mae llawer o wyddonwyr yn dweud mai鈥檙 broblem yw ein bod ni'n rhy dda yn pysgota erbyn hyn. Mae鈥檙 diwydiant pysgota modern yn defnyddio鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf fel radar, hofrenyddion chwilio (helicopter spotters), awyrennau a chychod pysgota enfawr i gynyddu eu dalfaMae鈥檔 cyfeirio at faint o bysgod sy鈥檔 cael eu dal., sef faint o bysgod maen nhw鈥檔 eu dal. Mae rhwydi anferth, sy鈥檔 aml mor fawr 芒 chaeau p锚l-droed, weithiau鈥檔 cael eu defnyddio i godi popeth ar eu llwybr.
Mae鈥檙 dechnoleg hon yn galluogi cwmn茂au mawr i bysgota ar fwy o ddyfnder ac mewn ardaloedd sy鈥檔 cynefinRhywle lle mae anifeiliaid neu blanhigion yn byw. i amrywiaeth eang o bysgod a bywyd morol.
Pysgota cimychiaid
Mae llawer o bysgotwyr yn cymryd eu camau eu hunain i warchod yr amgylchedd morol sydd mor bwysig iddynt. Mae niferoedd y cimychiaid yn gostwng yng Nghymru ac felly mae gr诺p o bysgotwyr cimychiaid wedi ffurfio Clwstwr Bwyd M么r Cymru. Maen nhw wedi cytuno i ddilyn rhai rheolau syml i amddiffyn y boblogaeth cimychiaid oddi ar arfordir Cymru.
- Maen nhw wedi cytuno mai dim ond cimychiaid h欧n, mwy o faint, nad ydynt yn cario wyau y byddan nhw'n eu dal.
- Bydd unrhyw gimychiaid llai, nad ydynt wedi tyfu鈥檔 llawn eto, neu unrhyw gimychiaid sy鈥檔 cario wyau yn cael eu dychwelyd i鈥檙 m么r lle maen nhw'n gallu parhau i fridio a dodwy wyau.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu鈥檙 boblogaeth cimychiaid i wella.
Mae rhai pysgotwyr hefyd yn defnyddio cewyll (cages) cimychiaid sydd wedi鈥檜 haddasu鈥檔 arbennig i adael i gimychiaid bach, iau, ddianc. Mae tyllau mwy wedi cael eu creu yn y cewyll fel bod cimychiaid sydd o dan bump oed yn gallu nofio oddi yno.
Fideo: Dyfodol poblogaeth cimwch Cymru
Sut mae gorbysgota yn effeithio ar y gadwyn fwyd?
Mae cadwyn fwyd yn dangos sut mae planhigion ac anifeiliaid yn cael eu hegni.
- Mae cadwyn fwyd bob amser yn dechrau gyda chynhyrchydd. Organeb yw hon sy鈥檔 gwneud ei bwyd ei hun.
- Mae rhywbeth byw sy鈥檔 bwyta planhigion ac anifeiliaid eraill yn cael ei alw鈥檔 ysydd.
- Mae ysglyfaethwr yn anifail sy鈥檔 bwyta anifeiliaid eraill. Yr enw ar yr anifeiliaid y mae ysglyfaethwyr yn eu bwyta yw ysglyfaeth.
1 of 4
Os byddwn yn tarfu ar y gadwyn fwyd hon drwy orbysgota, mae pysgod mwy a mamaliaid y m么r yn teimlo鈥檙 effaith yn ogystal 芒鈥檙 pysgod a鈥檙 cramennogAnifail sydd 芒 chragen galed, gymalog. Mae llawer math o gramenogion, gan gynnwys crancod, cimwch yr afon, cimychiaid a berdys. rydyn ni鈥檔 eu dal.
Pan fyddwn yn cymryd pysgod o鈥檙 m么r, mae angen i ni ofalu nad ydyn ni'n cymryd gormod. Drwy leihau faint o bysgod rydyn ni鈥檔 eu dal, rydyn ni'n gallu rhoi鈥檙 cyfle sydd ei angen ar boblogaethau pysgod a bywyd y m么r i wella.
Beth allwn ni ei wneud?
Mae llawer o lywodraethau wedi gosod terfynau i warchod poblogaethau pysgod a bywyd morol. Maen nhw鈥檔 rheoli sut, pryd a faint o bysgod sy'n gallu cael eu dal.
Hefyd rydyn ni'n gallu penodi ardaloedd arbennig i鈥檞 diogelu a鈥檜 hadfer. Mae'r rhain yn cael eu galw'n warchodfeydd morol.
Fel defnyddiwrRhywun sy鈥檔 archebu, neu鈥檔 defnyddio nwyddau, cynhyrchion neu wasanaethau at ddefnydd personol yn bennaf. neu siopwyr, rydyn ni'n gallu cefnogi dulliau pysgota cynaliadwy drwy chwilio am gynhyrchion sydd wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol (Marine Stewardship Council). Mae鈥檙 labeli hyn yn dangos bod y cynhyrchion hynny wedi cael eu dal yn gynaliadwy, mewn ffordd nad yw鈥檔 niweidio bywyd morol.
Y newyddion da
Y newyddion da yw bod gwneud y newidiadau cadarnhaol hyn yn gweithio. Mae gwyddonwyr wedi profi bod cymryd camau i leihau gorbysgota a gwarchod bywyd y moroedd yn cael effaith gadarnhaol ar boblogaeth ein moroedd. Drwy bysgota鈥檔 gynaliadwy, rydyn ni鈥檔 sicrhau dyfodol ein moroedd a hefyd yn gwneud yn si诺r bod digon o fywyd morol ar gyfer y dyfodol.
Ble nesaf?
Sut allwn ni dynnu plastig o'r m么r?
Mae tunelli o wastraff plastig yn mynd i鈥檙 moroedd bob blwyddyn. Be allwn ni ei wneud i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem?
All morwellt arafu newid hinsawdd?
Oeddet ti'n gwybod bod morwellt yn cael ei alw'n "ysgyfaint y m么r"?
Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed
More on Bwyd
Find out more by working through a topic