Adroddiad Blynyddol y ³ÉÈË¿ìÊÖ: ‘Blwyddyn dda’ i ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales ond rhagor i’w wneud yn 2013/14
Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y ³ÉÈË¿ìÊÖ am 2012/13, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos perfformiad cryf gan ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales, yng Nghymru ac ar draws sianeli rhwydwaith y ³ÉÈË¿ìÊÖ, er bod Cyngor Cynulleidfa Cymru yn parhau’n bryderus am lefelau derbyniad DAB ac FM a’r angen am ragor o raglenni wedi’u gwneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Roedd allbwn ³ÉÈË¿ìÊÖ Wales ar ³ÉÈË¿ìÊÖ One Wales a ³ÉÈË¿ìÊÖ Two Wales yn parhau i gyrraedd bron i filiwn o wylwyr, ac roedd 2.7miliwn o bobl yr wythnos yn ymweld â thudalennau Cymru y wefan. Eleni roedd ³ÉÈË¿ìÊÖ One Wales ar gaelÌý ar Ddiffiniad Uchel am y tro cyntaf. Ìý
Gwnaeth y stiwdios ym Mhorth y Rhâth gyfraniad mawr eto i ddrama rhwydwaith y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Ochr yn ochr â’r hen ffefrynnau Doctor Who a Casualty, cynhyrchwyd nifer o raglenni newydd yno, yn cynnwys cyfres antur Wizards vs Aliens ar gyfer C³ÉÈË¿ìÊÖ.Ìý Ac ym mis Medi, ennillodd y rhaglen newyddion dyddiol Newyddion wobr BAFTA Cymru am ei ddarllediadau o ddigwyddiadau coffa 9/11 yn Efrog Newydd yn 2011.
Tra bod derbyniad DAB i Radio Wales a Radio Cymru wedi cynyddu o 25 y cant gyda lansio trosglwyddyddion newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, gyda 80,000 o wrandawyr newydd yn gwrando ar Radio Wales FM, mae gan gynulleidfaoedd a Chyngor Cynulleidfaoedd Cymru yr Ymddiriedolaeth (sy’n cynghori’r Ymddiriedolaeth ar berfformiad y ³ÉÈË¿ìÊÖ o ran cyflawni pwrpasau cyhoeddus y ³ÉÈË¿ìÊÖ) bryderon difrifol o hyd am ddiffyg derbyniad DAB yng Nghymru yn gyffredinol.Ìý
I gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith, aeth y bartneriaeth rhwng y ³ÉÈË¿ìÊÖ ac S4C o nerth i nerth gyda gweithrediad y Cytundeb Gweithredu newydd rhwng Ymddiriedolaeth y ³ÉÈË¿ìÊÖ ac Awdurdod S4C. Mae’r cytundeb hwn yn diogelu annibyniaeth golygyddol, rheolaethol a gweithredol S4C tra’n darparu atebolrwydd i’r Ymddiriedolaeth am gyllido’r gwasanaeth. O fis Ebrill eleni tan 2017, daw mwyafrif incwm cyhoeddus S4C o ffi’r drwydded.
Wynebodd Radio Cymru gyfnod heriol yn ystod yr anghydfod, sydd eto i’w ddatrys, ynghylch hawliau darlledu masnachol rhwng y ³ÉÈË¿ìÊÖ a’r gymdeithas gasglu Gymraeg, Eos. Mae ymdrechion i ddatrys yr anghydfod yn parhau ac fe fydd yr Ymddiriedolaeth a Chyngor Cynulleidfa Cymru yn monitro cynnydd yn agos.Ìý
Dywedodd Ymddiriedolwr y ³ÉÈË¿ìÊÖ dros Gymru, Elan Closs Stephens:
"Mae ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales wedi cael blwyddyn dda, er gwaethaf amser caled iawn i’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yr hydref diwethaf. Fe wnaethom rannu cynnwrf a drama’r Gemau Olympaidd gyda gweddill y wlad, a nodi rhai llwyddiannau ein hunain: partneriaeth newydd gydag S4C, cryfder parhaus mewn drama a gynhyrchwyd ar gyfer y DU gyfan, fersiwn Diffiniad Uchel o ³ÉÈË¿ìÊÖ One i Gymru, yn ogystal â chynnydd mawr ei angen mewn derbyniad DAB i’r ddwy orsaf radio genedlaethol.
"Ond, gall ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales fynd hyd yn oed ymhellach ac fel y mae ein Cynghorau Cynulleidfa wedi ei amlygu, mae angen gweithio ar rai meysydd allweddol eleni. Mae rhagleni’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru yn bwysig i gynulleidfaoedd ac felly roedd hi’n fater o bryder na chafodd yr un drama yn yr iaith Saesneg ei gwneud yng Nghymru eleni ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru. Ac er bod cynnydd wedi’i wneud ar DAB, mae cryn dipyn o waith eto i’w wneud. Mae’n galonogol bod gwaith eisoes ar y gweill gan ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales a’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ehangach i fynd i’r afael â nifer o’r materion hyn, ac fe fydd yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor Cynulleidfa yn parhau i fonitro cynnydd."
Cododd canran gwariant teledu rhwydwaith yng Nghymru o 5.3 y cant yn 2012 i 6.8 y cant, yn bennaf oherwydd rhaglenni drama a rhaglenni ffeithiol.Ìý
Canmolodd aelodau’r Cyngor Cynulleidfa y ³ÉÈË¿ìÊÖ am gynnal y cyrhaeddiad wythnosol ar 89 y cant – yn uwch na lefel y DU gyfan.
Roedd hefyd yn cydnabod y gwelliannau a wnaethpwyd gan ³ÉÈË¿ìÊÖ News o ran nodi perthnasedd straeon i wahanol genhedloedd y DU ond mae’n dal i deimlo bod gwaith i’w wneud i wella’r adrodd am wahaniaethau mewn polisïau cyhoeddus ar draws y pedair cenedl.Ìý
Nodiadau i Olygyddion
Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y ³ÉÈË¿ìÊÖ am 2012/13 ar gael yn: ³ÉÈË¿ìÊÖ Annual Report
Mae Adolygiad Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gael yn:ÌýArolwg Blynyddol
Search the site
Can't find what you need? Search here