Os ydych yn troi at wefan y 成人快手 neu Apiau Newyddion a Chwaraeon y 成人快手 y tu allan i鈥檙 DU (y 鈥淕wasanaethau Rhyngwladol鈥), fe welwch chi hysbysebion masnachol, argymhellion am gynnwys a micro-wefannau hysbysebwyr (鈥淗ysbysebion鈥). Mae Hysbysebion yn ein galluogi i gynhyrchu incwm i helpu i ariannu gwasanaethau鈥檙 成人快手 ac i sicrhau eu bod ar gael i chi y tu allan i'r DU.
Os ydych yn y DU ac yn gallu gweld Hysbysebion, neu os ydych y tu allan i鈥檙 DU a鈥檆h bod wedi gweld Hysbysebion, sydd, yn eich barn chi, yn amhriodol ar y Gwasanaethau Rhyngwladol, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am gyngor. Fel arall, gallwch gysylltu 芒 成人快手 Studios (sy鈥檔 gyfrifol am hysbysebu) drwy: .
Hysbysebu ar Wasanaethau Rhyngwladol
成人快手 Studios, cangen fasnachol y 成人快手, sy鈥檔 gyfrifol am yr Hysbysebion a welwch ar y Gwasanaethau Rhyngwladol. Yn dibynnu ar eich gosodiadau cwcis a data, efallai y bydd rhai o鈥檙 Hysbysebion hyn wedi鈥檜 personoli yn seiliedig ar wybodaeth sy'n hysbys neu'n cael ei chasglu amdanoch chi a'ch diddordebau. Mae'r personoli hwn yn ein helpu i ddangos Hysbysebion mwy perthnasol i chi. Mae hefyd yn golygu y gallwn dderbyn mwy o refeniw wrth ein hysbysebwyr, gan ganiat谩u i ni fuddsoddi mwy mewn cynnwys gwych.
Byddwn hefyd yn dangos Hysbysebion i chi sy'n berthnasol i'r cynnwys rydych chi'n ei ddefnyddio (hysbysebu cyd-destunol). Er enghraifft, os ydych yn darllen erthygl am deithio yna efallai y byddwn yn dangos Hysbysebion ar gyfer cwmn茂au hedfan.
I greu proffil hysbysebu ar gyfer personoli, defnyddir dynodwyr unigryw (IDs) i wahaniaethu rhwng eich dyfais chi ac eraill - fel ID sy'n cael ei storio gan gwci, neu'ch ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol (cod unigryw a osodwyd gan system weithredu eich ff么n symudol). Gallwch optio allan o'r ID hyn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer personoli hysbysebion drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Yn fras, caiff ein hysbysebu ei reoli mewn dwy ffordd:
1. Yn fewnol gyda chymorth proseswyr data wedi鈥檜 contractio
Mae ein hysbysebu premiwm yn cael ei reoli'n fewnol drwy ddefnyddio platfform a ddarperir gan , platfform hysbysebu arbenigol sy'n canolbwyntio ar breifatrwydd. Mae'r platfform yn cael ei lywio gan ein data 鈥減arti cyntaf鈥 ein hunain yr ydym wedi'i gasglu gennych chi neu'ch dyfais. Mae'r data hwn yn cynnwys gwybodaeth gofrestru a gesglir pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau (e.e. Cyfrif y 成人快手), data sy鈥檔 seiliedig ar yr hyn rydych yn ei ddefnyddio tra鈥檔 defnyddio ein gwasanaethau (e.e. erthyglau a ddarllenwyd, hysbysebion y cliciwyd arnyn nhw), gwybodaeth dechnegol (e.e. porwr, dyfais a Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd) a'ch lleoliad (ar lefel gwlad). Yna rydym yn defnyddio'r data hwn i'ch rhoi mewn carfannau gyda defnyddwyr eraill sydd 芒 nodweddion a rennir (oedran, diddordebau). Yna defnyddir y carfannau hyn i ddewis Hysbysebion perthnasol i'w dangos i chi.
Weithiau byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda'n cleientiaid hysbysebu i'w galluogi i ddefnyddio data eu cwsmeriaid eu hunain i bersonoli eu Hysbysebion. Gallan nhw wneud hyn drwy baru data 芒 chwsmeriaid hysbys neu chwilio am gwsmeriaid 鈥榯ebyg鈥 sy鈥檔 seiliedig ar nodweddion tebyg. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn defnyddio technolegau arbenigol i gadw data ar wah芒n ac yn ddiogel, ac nid ydym yn rhannu nac yn cyfoethogi ein setiau data ein hunain yn uniongyrchol drwy'r broses hon.
Rydym hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr i wneud yn si诺r bod pobl go iawn (nid bots) yn gweld Hysbysebion, ac i sicrhau bod ein gwefan yn ddiogel.
Nid ydym yn rhannu eich data cofrestru neu 鈥済arfannau鈥 gyda hysbysebwyr nac unrhyw un arall (ac eithrio ein cyflenwyr contract sy'n prosesu data o dan ein cyfarwyddyd).
2. Masnachu hysbysebu awtomataidd a phersonoli
Rydym ni a鈥檔 hysbysebwyr hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmn茂au hysbysebu a data (鈥淕werthwyr Hysbysebu鈥) i ddangos Hysbysebion i chi, wedi鈥檜 personoli a heb eu personoli. Mae hyn yn cynnwys platfformau a rhwydweithiau arbenigol i: werthu ein gofod hysbysebu mewn arwerthiannau ar-lein, dethol a chyflwyno'r Hysbysebion a chasglu a rheoli'r data sydd ei angen i bersonoli Hysbysebion. Yn gyffredinol, bydd y cwmn茂au hyn yn gweithredu fel rheolwyr data ar wah芒n neu gallan nhw fod yn gweithredu o dan gyfarwyddyd eu cleient hysbysebu yn hytrach na ni.
Bydd Gwerthwyr Hysbysebu yn defnyddio data a rennir gan eich dyfais ochr yn ochr 芒 data proffil a gasglwyd o'ch arferion pori ar y rhyngrwyd a gwybodaeth marchnata a allai fod ganddyn nhw amdanoch chi. Gweler Cwestiynau Cyffredin 1 a 2 am fwy.
Gosodiadau Personoli Hysbysebion
Gallwch reoli eich cwcis a鈥檙 defnydd o鈥檆h data ar gyfer hysbysebu wedi鈥檌 bersonoli fan hyn, neu drwy glicio ar y ddolen Peidiwch 芒 rhannu neu werthu fy ngwybodaeth yn y troedyn ar bob tudalen ar 成人快手.com. Gallwch hefyd optio allan drwy newid gosodiadau eich porwr neu ddyfais. Gallwch ddysgu sut i wneud hyn yng Nghwestiwn Cyffredin 7 isod.
Os byddwch yn optio allan neu'n gwneud unrhyw newidiadau i osodiadau eich porwr, efallai y byddwch yn dal i weld Hysbysebion nad ydynt yn rhai cyd-destunol sydd wedi鈥檜 personoli. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich cyfeiriad IP i ddangos yr Hysbysebion hyn, i fesur eu heffeithiolrwydd, i gyfyngu ar faint o weithiau rydych chi'n gweld hysbyseb ac i sicrhau bod pobl, nid robotiaid, yn gweld yr hysbyseb.
Os ydych yn yr AEE, pan wnaethoch chi ddefnyddio鈥檙 Gwasanaethau Rhyngwladol am y tro cyntaf, byddwn wedi gofyn am eich caniat芒d i ddefnyddio cwcis a data at ddibenion masnachol. Byddwn yn adnewyddu鈥檙 caniat芒d hwn yn awtomatig bob 12 mis neu鈥檔 gynt os (i) byddwn yn ychwanegu Gwerthwyr Hysbysebu newydd at y gwasanaethau, (ii) rydych chi neu鈥檆h porwr yn dileu鈥檙 cwci sy鈥檔 storio eich dewis neu (iii) ar adegau pan fydd angen i ni ddiweddaru ein technoleg neu ddarparwr technoleg.
Gosodiad Personoli Cyfrif 成人快手
Gall defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi hefyd optio allan o ddefnyddio data cofrestru at ddibenion hysbysebu drwy ddiffodd y personoli yng ngosodiadau eu Cyfrif fan hyn: .
Cwestiynau Cyffredin
Gellir rhannu'r data canlynol pan ofynnir am Hysbysebion a'u darparu gan y Gwasanaethau Rhyngwladol:
- Cyfeiriad IP *
- ID Cwci neu ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol**
- URL Tudalen
- Gwneuthurwr dyfeisiau, model a system weithredu
- Math o borwr a fersiwn a dewisiadau
Bydd ein hysbysebion mewnol ein hunain hefyd yn defnyddio eich data cofrestru ac arferion pori ar y Gwasanaethau Rhyngwladol i briodoli diddordebau a nodweddion i chi.
Yn ogystal, bydd hysbysebion a ddarperir drwy ein Gwerthwyr Hysbysebu hefyd yn cynnwys y defnydd o ddata sydd wedi'i gasglu a'i gysoni ar draws sawl safle a ffynhonnell. Gall hyn gynnwys cronfa ddata marchnata’r hysbysebwr ei hun, demograffeg (e.e. gan froceriaid data ac asiantaethau gwirio credyd), arferion pori ar-lein ar draws y safle, data cyfryngau cymdeithasol a data all-lein (e.e. trafodion cardiau teyrngarwch a manwerthu).
* Eich Cyfeiriad IP yw’r rhif a neilltuwyd i'ch dyfais gan Ddarparwr eich Gwasanaeth Rhyngrwyd sy'n galluogi gwefannau i wybod ble i anfon eu cynnwys atoch. Fel arfer mae’n rhif deinamig sy'n newid yn aml (e.e. bob 24 awr) oni bai eich bod wedi gofyn am gyfeiriad IP sefydlog.
** Mae eich ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol yn ddynodwr alffaniwmerig ar hap a gynhyrchir gan wneuthurwr eich dyfais. Nid yw apiau symudol yn defnyddio cwcis a byddant yn defnyddio'r dynodwr hwn yn ei le. Gallwch ei ailosod neu ei ddiffodd yng ngosodiadau eich dyfais.
Fel yr eglurwyd, rydym ni a'n hysbysebwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o Werthwyr Hysbysebu i ddangos Hysbysebion i chi - rhai sydd wedi’u personoli a heb eu personoli. Mae hyn yn cynnwys platfformau a rhwydweithiau arbenigol i: werthu ein gofod hysbysebu mewn arwerthiannau ar-lein, dewis a chyflwyno'r Hysbysebion a chasglu a rheoli'r data sydd ei angen i bersonoli Hysbysebion. Rydym hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr i wneud yn si诺r bod pobl go iawn yn gweld Hysbysebion, ac i wneud yn si诺r bod ein gwefan yn ddiogel.
Gall Gwerthwyr Hysbysebu hefyd ddefnyddio cwcis a gafodd eu gollwng ar eich dyfais pan oeddech yn pori gwefannau eraill (nid rhai’r 成人快手). Mae hyn yn eu helpu i ddangos Hysbysebion i chi am bethau a allai fod yn berthnasol i'ch diddordebau yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i weld ar wefannau eraill. Maent hefyd yn gwneud hyn i weld a ydych eisoes wedi gweld hysbyseb benodol ac i gyfyngu ar faint o'u Hysbysebion a welwch ar draws y rhyngrwyd. Ac os ydych yn cymryd rhan mewn ymchwil i’r farchnad, gall y cwmni ymchwil gofnodi eich bod wedi gweld hysbyseb benodol.
Mae'r cwcis (neu ID cyfatebol) a'r data a anfonir gyda'r Hysbysebion yn gwneud hysbysebion wedi’u personoli yn bosibl. Maent hefyd yn galluogi hysbysebwyr i fonitro effeithiolrwydd eu Hysbysebion.
Gall Gwerthwyr Hysbysebu weithio gyda'i gilydd i rannu data fel y gallant bersonoli eu Hysbysebion yn well. I wneud hyn, maent yn defnyddio technoleg a elwir yn gydamserydd cwcis sy'n gweithio drwy groes-baru ID cwci a neilltuwyd i chi gan werthwr A gydag ID cwci sy’n cael ei gadw yng nghronfa ddata gwerthwr B. Mae’n bosibl y bydd gan y cwci hwnnw rai diddordebau a gwybodaeth ddemograffig wedi’u priodoli iddo, sydd yna’n cael ei rannu gyda gwerthwr A.
Rheoli Gwerthwyr Hysbysebu
Rydym yn gwneud ein gorau i ddiogelu data ein defnyddwyr ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â’n polisïau. Er enghraifft, ein nod yw gweithio gyda Gwerthwyr Hysbysebu sy'n cymryd rhan weithredol mewn fframweithiau hunan-reoleiddio cydnabyddedig (fel yr EDAA, DAA neu NAI). Rydym hefyd yn gosod cyfyngiadau cytundebol ar sut defnyddir data a gesglir am bobl sy'n defnyddio ein Gwasanaethau. Ac rydym yn archwilio ein gwefan yn rheolaidd i chwilio am faleiswedd a chwcis anniogel.
Rydym yn contractio nifer o Werthwyr Hysbysebu i gyflwyno hysbysebion ar draws ein Gwasanaethau Rhyngwladol. Mae'r cwmnïau hyn yn gyfrifol ar wahân am y data y maen nhw’n ei gasglu ac yn ei ddefnyddio amdanoch chi; maent yn “rheolwyr data” ar wahân.
Rydym hefyd yn caniatáu i gwmnïau arbenigol sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw ddefnyddio cwcis neu bicseli at ddibenion cyfyngedig ar ran ein hysbysebwyr. Rydym yn gwirio bod y cwmnïau arbenigol hyn yn bodloni ein safonau ansawdd cyn i ni eu rhoi ar ein rhestr a gymeradwywyd ymlaen llaw; mynediad at y rhestr o'r cwmnïau arbenigol hyn.
Gall y gwerthwyr sy'n weithredol ar ein gwefan newid o bryd i'w gilydd. Gwiriwch y rhestr o drydydd partïon yn y platfform Gosodiadau Cwcis Masnachol.
Cyfnewidfa hysbysebu a phersonoli
Hysbysebu oddi mewn i bodlediad
Hysbysebu ar e-bost
Argymhellion am gynnwys wedi’u personoli
Perfformiad hysbysebion, mesur a thwyll
Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni o’r enw ar gyfer rheoli ein data mewnol a phersonoli Hysbysebion. Mae yn gweithredu fel prosesydd data ac nid yw’n defnyddio data at eu dibenion eu hunain.
Bydd unrhyw gwmni sydd wedi gollwng cwci ar eich dyfais yn gallu olrhain eich gweithgaredd pori ar-lein. Mae'n bosib y byddwn ni a'n Gwerthwyr Hysbysebu yn ceisio paru eich gweithgarwch pori ar un ddyfais, fel eich gliniadur, â'ch gweithgarwch pori ar ddyfais arall, fel eich ffôn clyfar, fel y gallwn gyfyngu ar y nifer o weithiau y byddwch yn gweld hysbyseb benodol (ar draws eich dyfeisiau) ac i bersonoli'r hysbysebion rydyn ni'n eu dangos i chi.
I wneud hyn, rydym yn defnyddio data, fel eich patrymau pori, geo-leoliad ac ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol ac yn ei baru â gwybodaeth arall am y porwr a’r dyfeisiau sy’n ymddangos fel pe baech yn eu defnyddio.
Weithiau rydym yn prynu gofod hysbysebu ar wefannau a gwasanaethau eraill i ddangos Hysbysebion ar gyfer ein hysbysebwyr. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dangos hysbyseb i chi cyn fideo 成人快手 News ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gallai'r hysbyseb honno gael ei phersonoli yn yr un ffordd â phan fyddwch chi'n defnyddio'r Gwasanaethau Rhyngwladol.
Efallai y byddwn hefyd yn cynnwys Hysbysebion yn y podlediadau rydym yn eu cyhoeddi ar amrywiol lwyfannau gwahanol, ee Spotify, Audible ac Apple Podcasts. Yn amodol ar y gyfraith berthnasol, efallai y byddwn yn caniatáu i drydydd partïon fel ein darparwyr gwasanaeth a rhai ein hysbysebwyr i gasglu gwybodaeth uniongyrchol neu wybodaeth arall na ellir yn rhesymol ei chysylltu â chi yn bersonol, er mwyn mesur perfformiad yr Hysbysebion ac effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd, ee a ydych chi’n mynd ymlaen i wrando ar bodlediad arall ar ôl clywed Hysbyseb amdano mewn podlediad gwahanol.
Gall ein cynnwys gael ei gyhoeddi ar wefannau ac apiau sy'n eiddo i gwmnïau eraill, fel Apple News, MSN, Facebook ac YouTube. Gall y cwmnïau hyn gasglu a defnyddio data am eich rhyngweithio â'n cynnwys ar eu gwasanaethau, gan gynnwys at ddibenion dangos Hysbysebion i chi sydd wedi’u personoli. I gael gwybod beth maen nhw'n ei wneud â'ch data, edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd a'r telerau defnyddio ar gyfer y gwasanaeth perthnasol.
Os ar unrhyw adeg nad ydych am i'ch data, fel eich ID cwci ac arferion pori, gael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebion sydd wedi’u personoli ar ein gwefannau/apiau, gallwch "optio allan" neu newid gosodiadau eich porwr. Gallwch ddysgu sut i wneud hyn isod. Os byddwch yn optio allan neu'n gwneud unrhyw newidiadau i osodiadau eich porwr, byddwch yn parhau i weld Hysbysebion a allai fod yn llai perthnasol i chi. Bydd rhywfaint o ddata, fel eich cyfeiriad IP, yn cael ei ddefnyddio i ddangos hysbyseb sydd heb ei phersonoli i chi hyd yn oed os byddwch yn optio allan. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich cyfeiriad IP i fesur effeithiolrwydd Hysbysebion (sydd heb eu personoli), i gyfyngu ar sawl gwaith y byddwch chi'n gweld hysbyseb, ac i sicrhau bod pobl, nid robotiaid, yn gweld yr hysbyseb.
Gosodiadau Personoli Hysbysebion
Gallwch optio allan o'r defnydd o'ch data gennym ni a'n Gwerthwyr Hysbysebu i bersonoli hysbysebion drwy glicio ar y ddolen Cwcis / Peidiwch â rhannu na gwerthu fy ngwybodaeth ar droedyn pob tudalen ar 成人快手.com.
Newid gosodiadau eich porwr
Gallwch hefyd atal eich ID cwci a’ch data pori rhag cael eu holrhain a’u defnyddio at ddibenion hysbysebion sydd wedi’u personoli drwy newid gosodiadau eich porwr, pori yn y ‘modd preifat’ neu drwy ddefnyddio ychwanegion porwr sydd ar gael ar y rhyngrwyd. Ewch i'r dudalen gymorth berthnasol ar gyfer eich porwr, neu defnyddiwch y swyddogaeth cymorth ar eich porwr.
Newid gosodiadau eich dyfais symudol
Nid yw apiau symudol yn defnyddio cwcis. Yn hytrach, defnyddir eich ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol i adnabod eich dyfais a chasglu gwybodaeth am eich arferion pori ar apiau i ddangos Hysbysebion wedi’u personoli i chi. ID nodweddiadol yw AdID (Android) ac IDFA (Apple). Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i ailosod neu ddiffodd yr ID hwn.
Apple iOS
Mae Apple yn caniatáu defnyddwyr sy’n defnyddio iOS 14 ac uwch i ddiffodd yr IDFA y tro cyntaf y bvdd ap 成人快手 News yn cael ei agor. Dewiswch “Ask App Not to Track” pan ofynnir i chi.
I newid eich dewis, ewch i Settings > Privacy > Tracking
Defnyddwyr sy’n defnyddio fersiynau h欧n o iOS:
- Ewch i Settings > Privacy > Advertising.
- Trowch Limit Ad Tracking ymlaen.
Ewch i Apple am fwy o fanylion.
Google Android
- Ewch i Settings.
- Dewiswch Google yn yr adran Gyfrifon.
- Dewiswch Ads yn yr adran Breifatrwydd.
- Ticiwch Opt out of interest based Ads.
Ewch i Google am fwy o wybodaeth.
Gosodiadau Ap 成人快手 News
Ar gyfer defnyddwyr yn yr UE, rydym yn darparu gosodiadau ychwanegol i reoli pa Werthwyr Hysbysebu rydym yn rhannu data â nhw ac at ba ddibenion. Dilynwch y cyfarwyddiadau a ddangosir pan fydd ap 成人快手 News yn cael ei agor am y tro cyntaf, neu, i ailosod eich dewisiadau o fewn y sgrin osodiadau yr ap, ewch i:
Menu > Settings > Privacy Settings / Do Not Sell My Info
Mae gan rai taleithiau fel California a Virginia ddeddfwriaeth preifatrwydd sy’n rhoi’r hawl i breswylwyr optio allan o werthu eu gwybodaeth bersonol neu brosesu/rhannu data at ddibenion hysbysebu wedi'i dargedu (fel y'i diffinnir dan gyfraith Virginia). Gallwch optio allan o unrhyw “werthiant” neu brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â hysbysebu wedi’i dargedu (fel y’i diffinnir o dan gyfraith berthnasol) yn y dyfodol drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Os ydych eisoes wedi optio allan o’r defnydd o’ch data yn unol â’r uchod, gallwch optio yn ôl i mewn drwy: (i) newid eich Gosodiadau Cwcis Masnachol neu drwy newid unrhyw un o’r mesurau rheoli eraill a ddisgrifir isod yn yr hysbysiad hwn a (ii) cadarnhau eich dewis drwy barhau i ddefnyddio ein gwefan/ap.
Mae’r diwydiant hysbysebu wedi datblygu nifer o fentrau defnyddwyr a busnes yn Ewrop, UDA a rhanbarthau eraill, gan gynnwys y rhai a restrir isod. Mae'r mentrau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau sy'n cymryd rhan (a all gynnwys ein Gwerthwyr Hysbysebu) gydymffurfio â fframwaith hunan-reoleiddio, sy'n nodi egwyddorion arfer gorau, canllawiau defnyddwyr ac offer optio allan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data 成人快手 Studios: dataprotection@bbc.com.