成人快手

Oedi datblygiadol oherwydd anghenion addysgol arbennig ac anabledd, ac anghenion lleferydd ac iaith: Dysgu am eich plentyn a dod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu

Mae pob plentyn yn wahanol. Ac felly, bydd y ffordd rydych chi鈥檔 cyfathrebu 芒鈥檆h plentyn yr un mor unigryw a phersonol 芒鈥檆h plentyn.

Mae hyn yn arbennig o wir os oes gan eich plentyn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

鈥淔el rhiant, efallai eich bod chi鈥檔 teimlo colled os nad yw'ch plentyn wedi cyrraedd lle鈥檙 oeddech chi鈥檔 gobeithio a ddim yn siarad erbyn oedran penodol,鈥 medd Alys Mathers, Therapydd Tra-arbenigol ym maes Lleferydd ac Iaith sy鈥檔 gweithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion.

鈥淎c efallai byddwch chi hefyd yn gweld eich hun yn cymharu鈥檆h plentyn chi 芒 phlant eraill o鈥檙 un oed. Er bod hynny鈥檔 gwbl normal, bydd yn anodd i chi. Yn hytrach na hynny, byddwn i鈥檔 awgrymu canolbwyntio ar eich plentyn chi, dod o hyd i鈥檆h ffyrdd eich hunain o gyfathrebu 芒鈥檆h gilydd, a dathlu pob llwyddiant.鈥

Mae gan Alys lawer o gyngor ymarferol ar sut gallwch chi gefnogi'ch plentyn a鈥檌 helpu i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu鈥

Dad a phlentyn yn chwarae yn yr ardd
Image caption,
Canolbwyntiwch ar eich plentyn chi, a dewch o hyd i鈥檆h ffyrdd eich hun o gyfathrebu.

1. Dilyn arweiniad eich plentyn

Mae gwylio鈥檆h plentyn i weld sut mae鈥檔 ceisio cyfathrebu 芒 chi yn lle da i gychwyn.

鈥淢ae plant yn dechrau cyfathrebu 芒 chi mewn llawer o wahanol ffyrdd,鈥 medd Alys. 鈥淓fallai bydd rhai plant yn dangos beth maen nhw eisiau drwy edrych ar rywbeth penodol, efallai bydd plant eraill yn pwyntio. Bydd rhai yn chwarae gyda synau drwy barablu. Bydd rhai plant yn hoffi pan fyddwch chi鈥檔 gwneud ystumiau wrth ganu, a fydd gan eraill ddim diddordeb. Neu efallai bydd eich plentyn yn edrych arnoch chi pan fydd yn barod i gael rhagor o wybodaeth neu eisiau rhywbeth gennych chi. Mae hyn yn cael ei arwain gan y plentyn i raddau helaeth, felly mae鈥檔 fater o sylwi ar sut mae'ch plentyn eisiau cyfathrebu gyda chi鈥檔 naturiol, ac wedyn ymateb i hynny.鈥

2. Cael hwyl

Mae llawer o waith ymchwil yn dangos bod plant yn dysgu drwy chwarae. Mae hynny鈥檔 newyddion gwych i chi a鈥檆h plentyn. 鈥淐hwarae yw鈥檙 ffordd orau i鈥檆h plentyn ddysgu," medd Alys.

Felly, fy mhrif gyngor i fyddai cadw pethau鈥檔 ysgafn ac yn hwyliog.

鈥淢ae llai o bwysau o wneud hynny, ac mae鈥檔 eich helpu i greu cwlwm. Mae hyd yn oed chwarae tag yn ffordd o gyfathrebu, oherwydd mae鈥檔 rhaid cymryd tro.鈥

Os yw鈥檆h plentyn chi鈥檔 mwynhau gweithgareddau chwarae bl锚r, neu fodio a byseddu gweadau gallwch ddefnyddio hynny hefyd fel cyfle i gyfathrebu. Yn 么l Alys: 鈥淥s yw鈥檆h plentyn yn mwynhau lliwio neu beintio gyda bysedd, siaradwch am y llun mae鈥檔 ei wneud. A daliwch ati tan y diwedd, hyd yn oed os yw'ch plentyn eisiau gwneud y gweithgaredd dro ar 么l tro. Gwnewch yn si诺r nad chi sy鈥檔 stopio canolbwyntio鈥檔 gyntaf.鈥

3. Defnyddio symudiadau

Os yw鈥檆h plentyn yn cael trafferth gyda synau neu ei glyw, mae defnyddio ystumiau a symudiadau鈥檔 ffordd wych o gyfathrebu.

鈥淒echreuwch gyda beth sy鈥檔 dod yn naturiol, fel nodio neu ysgwyd eich pen," medd Alys. 鈥淕allwch hefyd wneud rhywfaint o arwyddion . Mae rhai rhieni鈥檔 gweld hyn yn anodd iawn i ddechrau, felly dechreuwch gydag ychydig o arwyddion fel bwyta, cysgu ac yfed. Gallwch hefyd wylio鈥檙 symudiadau mae鈥檆h plentyn yn eu gwneud, a meddwl hefyd am unrhyw arwyddion a fyddai鈥檔 ddefnyddiol iddo. Os yw鈥檔 gofyn am ei dedi drwy鈥檙 amser, ond nad yw鈥檔 gofyn mewn ffordd glir, helpwch eich plentyn i ddod o hyd i arwydd ar gyfer hynny.鈥

Mam a phlentyn yn gwneud yr un weithred 芒'u dwylo.
Image caption,
Mae defnyddio symudiadau鈥檔 ffordd wych o gyfathrebu.

4. Meddwl am y ffordd rydych chi鈥檔 cyfathrebu

Nid eich plentyn yw鈥檙 unig un sy鈥檔 dysgu sut i gyfathrebu. Gallwch chi wneud llawer o newidiadau bach i鈥檆h iaith a鈥檆h lleferydd eich hun, a fydd yn helpu.

鈥淯n peth i roi cynnig arno yw defnyddio brawddegau byrrach, a rhannu beth rydych chi鈥檔 ei ddweud yn ddarnau llai, sy鈥檔 eu gwneud yn haws eu deall,鈥 medd Alys.

Mae hi鈥檔 argymell plygu i lawr at lefel eich plentyn, er mwyn i'ch plentyn allu gweld eich wyneb. Ond ceisiwch beidio 芒 siarad yn rhy araf. 鈥淯n ffordd o ddysgu seiniau newydd yw gwylio sut mae pobl eraill yn defnyddio eu ceg i wneud y s诺n. Mae gor-ynganu geiriau neu siarad yn rhy araf yn newid y ffordd mae鈥檆h ceg a鈥檆h gwefusau鈥檔 ffurfio鈥檙 gair hwnnw.鈥

5. Dal i ganolbwyntio

O deledu i deganau, mae llawer o bethau sy鈥檔 tynnu sylw yn y cartref.

Mae鈥檔 gwbl allweddol eich bod chi鈥檔 rhoi sylw i鈥檆h plentyn.

鈥淩howch eich ff么n i lawr, a diffoddwch s诺n cefndir pan fyddwch chi鈥檔 cyfathrebu 芒鈥檆h plentyn. Dydych chi ddim eisiau i rywbeth arall dynnu sylw鈥檆h plentyn (na'ch sylw chi!). Bydd rhoi鈥檆h holl sylw yn helpu鈥檆h plentyn i sylwi ar eich arferion da, ac i ddysgu sut i hoelio ei sylw ei hun.鈥

Yn ogystal 芒 hynny, bydd hefyd yn haws i chi sylwi ar arwyddion di-eiriau eich plentyn, fel pwyntio a gwahanol fynegiant ar ei wyneb.

Teulu yn eistedd ar soffa yn clapio.
Image caption,
Mae canolbwyntio ar eich plentyn a rhoi sylw iddo yn bwysig dros ben.

6. Gwneud sylwadau yn lle gofyn cwestiynau

Efallai bydd eich plentyn yn teimlo o dan bwysau os byddwch chi鈥檔 gofyn llawer o gwestiynau.

Yn 么l Alys: 鈥淧an fyddwch chi鈥檔 chwarae gyda鈥檆h gilydd, ceisiwch wneud sylwadau yn hytrach na gofyn cwestiynau. Mae hyn yn ffordd arall o ddilyn arweiniad eich plentyn. Yn hytrach na gofyn, 鈥楤eth wyt ti鈥檔 ei wneud?鈥, gallech chi ddweud, 鈥楻wyt ti'n gwneud t欧, ac mae鈥檙 fricsen yna鈥檔 mynd ar y top.鈥 Os ydych chi鈥檔 gweld eich hun yn gofyn cwestiwn, atebwch y cwestiwn ar unwaith. Os ydych chi鈥檔 dweud, 鈥楤eth yw hwnna?鈥, atebwch drwy ddweud 鈥榖ricsen yw hwnna鈥. Mae cwestiwn yn brawf, ond mae sylwadau鈥檔 gyfle i ddysgu.鈥

7. Dathlu pob llwyddiant

Boed yn symudiad newydd neu'n s诺n newydd, gwnewch yn si诺r eich bod chi鈥檔 canmol eich plentyn. Yn 么l Alys: 鈥淥s oes gan eich plentyn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, mae hynny鈥檔 cynnwys ystod eang iawn o bethau. Efallai ei fod yn cael trafferth gyda synau. Neu ddeall neu ddysgu geiriau.鈥

Felly pan fydd eich plentyn yn dysgu s诺n, symudiad neu ffordd newydd o gyfathrebu, dathlwch hynny!

鈥淢ae鈥檔 wych sylwi ar bob llwyddiant, ac mae鈥檔 braf iawn i鈥檆h plentyn gael cydnabyddiaeth o鈥檙 hyn mae wedi鈥檌 ddysgu.鈥

Ble nesaf?