成人快手

Mae profiad pob mam newydd yn wahanol, ond un peth sy'n sicr yw bod yr ychydig ddiwrnodau ac wythnosau cyntaf gyda鈥檆h babi yn heriol.

Does neb yn hwylio drwy'r wythnos gyntaf yn ddidrafferth 鈥 beth bynnag maen nhw鈥檔 ei honni ar y cyfryngau cymdeithasol.

鈥淓fallai fod gennych chi ddisgwyliadau o ran sut rydych chi鈥檔 mynd i fod, ond rhaid i chi fod yn realistig,鈥 meddai Maggie Fisher, ymwelydd iechyd arbenigol a Swyddog Datblygu Proffesiynol yn y Sefydliad Ymweliadau Iechyd.

鈥淒oes dim byd yn gallu eich paratoi chi鈥檔 llwyr ar gyfer y cyfnod hwn neu ar gyfer y teimladau y byddwch chi鈥檔 eu profi, felly byddwch yn garedig tuag atoch eich hun. A pheidiwch 芒 gwrthod unrhyw gymorth sy'n cael ei gynnig, cofiwch y bydd pethau'n setlo. Yn y chwe wythnos gyntaf, mater o ymdopi yw hi.鈥

Dyma gyngor gan Maggie ar oroesi'r ychydig ddiwrnodau ac wythnosau cyntaf, ynghyd ag ambell berl o ddoethineb gan gymuned Plant Bach Hapus.

mam a merch yn cofleidio

Eich corff

Mae鈥檔 hanfodol rhoi amser i chi ddod atoch eich hun - mae eich corff wedi cael profiad corfforol rhyfeddol.

鈥淢ae鈥檔 debyg fod gennych fol blonegog, marciau ymestyn, efallai fod eich niplau鈥檔 ddolurus, eich perin毛wm yn ddolurus, efallai fod gennych boen yn eich cefn, efallai eich bod yn gollwng llaeth, efallai fod gennych glwyf y marchogion, efallai eich bod yn dioddef gollyngiadau a rhedlifoedd,鈥 meddai Maggie.

鈥淢ae鈥檔 hollol normal i deimlo nad ydych yn ddeniadol a鈥檆h bod yn cael eich llethu, yn enwedig os oedd yr esgor yn anodd,鈥 esbonia Maggie.

Ond peidiwch 芒 dioddef symptomau'n dawel 鈥 cofiwch nad oes yr un cwestiwn yn rhy wirion nac yn destun embaras i鈥檆h bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu. Dyma realiti bod yn fam, felly peidiwch ag ofni dweud, meddai Maggie.

Gwnewch bethau鈥檔 araf, bwytewch yn iach a chysgwch pan allwch.

鈥淢ae鈥檔 bwysig hefyd eich bod yn gwneud ymarferion llawr y pelfis mor rheolaidd 芒 phosibl - pryd bynnag y gallwch, megis pan fyddwch yn eistedd ac yn bwydo eich babi. Peidiwch 芒 mynd yn 么l i wneud ymarfer corff yn rhy gyflym, yn enwedig os ydych chi wedi cael toriad Cesaraidd, oherwydd bydd mwy o risg o gael anaf. Mae ymarfer corff ysgafn yn bwysig.鈥

Cyngor gan famau Plant Bach Hapus

  • 鈥淒efnyddiwch y padiau mamolaeth mwyaf o ran maint a'r rhai mwyaf cyfforddus鈥 a phrynwch lawer ohonyn nhw!鈥
  • "Cewch afael ar becynnau i芒, clustog bwydo o'r fron ac ibwproffen os oes angen."
  • 鈥淧eidiwch 芒 chymharu eich hun 芒 ffrindiau neu enwogion sy鈥檔 ymddangos fel pe baen nhw wedi mynd i lawr saith maint dillad dridiau ar 么l geni 鈥 dydy hynny ddim yn realistig!鈥
  • 鈥淏yddwch yn garedig tuag atoch eich hun. Mae鈥檔 anodd, ond gallwch chi ddod drwyddi. Gorffwyswch a chysgwch pan allwch chi, a mwynhau amser cael cwtsh.鈥
  • 鈥淐eisiwch gael byrbrydau iachus, di ffwdan wrth law, fel ffrwythau a bariau grawnfwyd. A rhowch eich diodydd poeth mewn mwg wedi'i inswleiddio fel nad ydyn nhw'n oeri鈥檔 rhy sydyn.鈥

Eich meddwl

鈥淢ae鈥檔 naturiol i chi deimlo鈥檔 isel weithiau, ond os ydy'r teimladau'n digwydd yn aml, mae angen i chi siarad gyda rhywun,鈥 meddai Maggie. 鈥淒yma arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt: teimlo鈥檔 isel neu鈥檔 bryderus yn barhaus, newidiadau yn eich archwaeth a鈥檆h cwsg, meddyliau ymwthiol, crio, diffyg mwynhad yn y pethau rydych chi鈥檔 eu mwynhau fel arfer."

"Mae鈥檔 anodd iawn cyfaddef pa mor anodd yw magu plant a bod angen help arnoch. Mae鈥檔 si诺r eich bod eisiau ymddangos yn ddewr. Ond fy neges bob amser ydy ei bod yn iawn peidio 芒 bod yn iawn.鈥

A chofiwch fod meithrin perthynas gyda鈥檆h babi yn gallu cymryd amser hir, ychwanega Maggie 鈥淒ydy llawer o famau ddim bob amser yn syrthio mewn cariad 芒鈥檜 babi ar unwaith, ac mae鈥檔 gallu teimlo fel methiant mawr. Mae鈥檔 bwysig iawn peidio 芒 dioddef yn dawel. Codwch y ff么n, siaradwch 芒 ni, dywedwch wrthym os ydych chi鈥檔 cael trafferth.鈥

Gall camau bach a chadarnhaol bob dydd fod o gymorth mawr.

鈥淢ae apiau da iawn ar gael i roi hwb bach i chi, fel yr un gan Action for Happiness. Rhowch gynnig ar yoga ysgafn, meddylgarwch a cherdded bob dydd yn yr awyr iach 鈥 mae鈥檔 ymarfer corff gwych a gallwch gwrdd 芒 mamau eraill yn yr awyr agored,鈥 meddai Maggie.

鈥淢ae鈥檔 bwysig cysylltu 芒 mamau eraill, boed hynny mewn bywyd go iawn, ar fforwm ar-lein, grwpiau WhatsApp neu alwadau Zoom. Mae鈥檔 gysur clywed eu profiadau. Gall hefyd helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol a normaleiddio鈥檙 hyn rydych chi鈥檔 ei deimlo."

"Dydy llawer ohonom ddim yn sylweddoli bod pobl eraill yn teimlo鈥檙 un fath, yn enwedig o ran iechyd meddwl, nes byddwn ni鈥檔 bod yn onest."

"Mae clywed mam arall yn dweud 鈥榤ae鈥檔 ofnadwy, ond bydd pethau鈥檔 gwella鈥 yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.鈥

Cyngor gan famau Plant Bach Hapus

  • "Cofiwch y bydd pethau'n gwella. Chewch chi byth yr wythnos gyntaf yn 么l, pan maen nhw鈥檔 gwneud dim byd ond cysgu, swatio ac arogli fel babi newydd-anedig, felly ceisiwch fwynhau'r cyfnod. Byddwch yn barod i gysgu yn ystod y dydd, gwisgo pyjamas, bwyta tecaw锚 a chynnwys ambell ffrwyth bob hyn a hyn.鈥
  • 鈥淲rap cario babi. Fe fyddwch chi eisiau defnyddio鈥檙 t欧 bach, bwyta neu frwsio eich gwallt o bryd i'w gilydd.鈥
  • 鈥淕ostyngwch eich safonau. Mae鈥檔 iawn i beidio 芒 hwfro."
  • "Anadlwch a chario ymlaen tan y bore. A gwyliwch rywbeth da ar y teledu neu dabled!鈥
  • "Neilltuwch amser i gael cawod, mae鈥檔 eich cadw鈥檔 effro ac yn gwneud i chi deimlo fwy fel person go iawn.鈥

Eich perthnasoedd agos

Does dim gwadu bod babi鈥檔 cyrraedd yn effeithio鈥檔 fawr ar eich perthnasoedd agosaf.

鈥淢ae mwy o wrthdaro rhwng cyplau yn y flwyddyn ar 么l cael babi. Problemau cyffredin yw tasgau鈥檙 cartref, arian a rhyw, sef y peth olaf ar feddwl unrhyw fam newydd,鈥 eglura Maggie. 鈥淢ae angen i chi barhau i gyfathrebu, bod yn onest a chefnogi eich gilydd. Dydy hyn ddim yn gyfnod hawdd i'r un ohonoch ac efallai eich bod yn hiraethu am eich bywydau blaenorol. Mae angen i'ch partner wybod nad ydych yn eu gwrthod tra rydych yn canolbwyntio ar ddod atoch eich hun a sefydlu perthynas gyda鈥檆h babi. Yr hyn rydw i'n ei ddweud wrth unrhyw bartneriaid ydy: canolbwyntiwch ar wneud i Mam deimlo鈥檔 dda amdani ei hun.

Mae hwn yn sicr yn gyfnod pan fydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnoch, yn enwedig os ydych chi鈥檔 rhiant unigol. Ond er bod cynghorion gan bobl eraill yn gallu bod yn garedig, gallant fod yn fusneslyd.

Felly dywedwch yn glir pa fath o help sydd ei angen arnoch, meddai Maggie. 鈥淧eidiwch 芒 bod ofn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch, fel siopa, smwddio, coginio, golchi dillad, neu fynd 芒鈥檆h babi allan am awr neu ddwy er mwyn i chi gael gorwedd.鈥

鈥淧an fyddwch chi鈥檔 teimlo鈥檔 arbennig o flinedig a sensitif, mae鈥檔 anodd i bobl ddweud wrthych chi beth mae angen i chi fod yn ei wneud. Efallai y byddwch yn meddwl eu bod yn eich beirniadu."

"Ond gwrandewch ar eich greddf, chi ydy'r arbenigwr, chi sy'n adnabod eich babi orau. Mae pob un yn unigryw, mae pob un yn unigolyn."

"Ceisiwch fod yn bendant, d'wedwch 鈥渄yma dw i wedi ei weld鈥 a gofynnwch i鈥檆h partner gyfeirio unrhyw gyngor diangen draw oddi wrthoch.鈥

Cyngor gan famau Plant Bach Hapus

  • 鈥淧enderfynwch pwy y byddwch am ei holi pan fydd angen cymorth arnoch. Mae partneriaid yn wych ond pan fydd y ddau ohonoch heb gael cwsg, mae鈥檔 hanfodol cael p芒r ychwanegol o ddwylo i ddal y babi neu i goginio pryd o fwyd i鈥檙 ddau ohonoch.鈥
  • 鈥淐aewch y drws. Os nad ydych chi鈥檔 barod i dderbyn ymwelwyr, dywedwch neu fe fyddwch chi鈥檔 cael llif cyson o ymwelwyr a byddwch yn teimlo eich bod chi鈥檔 cael eich llethu.鈥
  • 鈥淕ofynnwch i ymwelwyr ddod 芒 phrydau o fwyd cartref, yn hytrach na blodau. Mae blodau yn rhywbeth ychwanegol i ddelio 芒 nhw pan nad oes gennych chi brin ddigon o amser i fynd i鈥檙 t欧 bach.鈥

Rhagor o wybodaeth

Ble nesaf?