³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Wales - Teithiau Addysgol
Camwch allan o’r ystafell ddosbarth ac i stiwdios teledu a radio mwyaf blaengar y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Mae ein teithiau gwobredig, y tu ôl i'r llenni, yn gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru, ac yn cynnwys popeth sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli a chyffroi meddyliau ifanc.
Mae Teithiau’r ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi cael gwobr aur gan Croeso Cymru a gwobr Travellers’ Choice gan Tripadvisor am ansawdd y teithiau.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i weld sut beth yw bod mewn canolfan ddarlledu, a sut rydyn ni’n gweithio yn y ³ÉÈË¿ìÊÖ.
Ar eich ymweliad,Ìýbyddwch yn:
- Mynd y tu ôl i’r llenni yn Sgwâr Canolog ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru.
- Cael eich arwain gan dywyswyr gwybodus a chyfeillgar sy’n rhannu cyfrinachau a ffeithiau go anhysbys.
- Ymweld ag un o’r ystafelloedd newyddion mwyaf yn y DU, sy’n llawn technoleg flaengar, gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig.
- Cymryd cipolwg ar orielau teledu a chyfleusterau darlledu eraill.
- Cael cynnig ar weithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys cwis llwybr Bitesize y ³ÉÈË¿ìÊÖ, cyflwyno’r newyddion a’r tywydd, a sylwebaeth chwaraeon.
Cwricwlwm i Gymru:
Gall Teithiau'r ³ÉÈË¿ìÊÖ gynnig profiad cyfoethogi rhagorol i fyfyrwyr sy'n cefnogi'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Gall y teithiau helpu myfyrwyr i wneud y canlynol:
- Datblygu uchelgeisiau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
- Herio eu syniadau eu hunain am y mathau o rolau a chyfleoedd sydd ar gael yn ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol ac ystyrlon sy’n annog creadigrwydd, cyfathrebu a sgiliau cydweithio.
- Deall yr angen am greadigrwydd ac arloesedd ym maes darlledu.
- Dysgu mwy am rôl gymdeithasol darlledwr cyhoeddus ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
- Profiad o ddatblygiadau technolegol mewn lleoliad gwaith ac ym maes darlledu ac allbwn digidol.
Cliciwch yma i weld teithiau addysgol drwy gyfrwng y Saesneg
Os oes gyda chi gais ar gyfer taith Gymraeg ar ddyddiad penodol, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.
Tour dates and times
Dyddiadau ac amseroedd y teithiau
Bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod y tymor
10.30am, 12.30pm, 3pm
Gellir addasu pob taith i gyd-fynd â’ch anghenion a gall bara rhwng 45 a 90 munud. Gallwn hyd yn oed gynnig dwy daith 45 munud byrrach i ddarparu ar gyfer mwy o fyfyrwyr. I archebu, ac i gael rhagor o wybodaeth,Ìý. Am ymholiadau ffoniwch 029 2063 6464.Ìý
Prisiau Tocynnau
Tocynnau GRÅ´P - Myfyrwyr | Dan 26 (10 neu fwy)Ìý
£9.00
Mae un lle am ddim i oedolion yn cael ei roi i bob 10 myfyriwr, ac i’r rheini sy’n darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr ADY.