³ÉÈË¿ìÊÖ

Cronfa ddata Cyfranwyr 50:50

Os hoffech chi fod yn rhan o’n cronfa ddata o gyfranwyr posibl, a helpu timau’r ³ÉÈË¿ìÊÖ i gynnwys lleisiau mwy amrywiol yn eu cynnwys, llenwch y ffurflen isod a’i chyflwyno.

Yn 50:50 rydyn ni’n casglu eich gwybodaeth ac yn sicrhau ei bod ar gael i dimau cynhyrchu’r ³ÉÈË¿ìÊÖ. Y timau hynny fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gysylltu â chi ai peidio, felly mae’r wybodaeth a roddwch chi isod yn bwysig. Gan nad yw 50:50 yn argymell arbenigwyr na chyfranwyr, mae gwneuthurwyr cynnwys y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am eu diwydrwydd dyladwy eu hunain pan fyddan nhw’n cysylltu, felly dydy bod ar y gronfa ddim yn golygu eich bod chi wedi cael eich cymeradwyo.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n prosesu data personol, edrychwch ar ein hysbysiad preifatrwydd i gyfranwyr sydd ar gael isod.

Hysbysiad preifatrwydd – Cronfa Ddata Cyfranwyr 50:50

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi, yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Yr wybodaeth bersonol yw eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a rhywedd. Rydyn ni hefyd yn eich gwahodd i roi eich ethnigrwydd a nodi a oes gennych chi unrhyw anabledd – gelwir hyn yn ddata categori arbennig. Bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn cadw eich data personol yn ddiogel mewn cronfa ddata o arbenigwyr a chyfranwyr sydd ar gael yn fewnol i ymgynghori â nhw wrth ddewis cyfranwyr ar gyfer cynnwys y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Does dim sicrwydd y bydd rhywun yn cysylltu â chi nac yn gofyn i chi ymddangos yng nghynnwys y ³ÉÈË¿ìÊÖ.


Y ³ÉÈË¿ìÊÖ yw “rheolydd data” eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu mai’r ³ÉÈË¿ìÊÖ fydd yn penderfynu ar gyfer beth fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, a sut bydd yn cael ei phrosesu. Bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn dibynnu ar eich caniatâd penodol chi i gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion dewis cyfranwyr ar gyfer cynnwys y ³ÉÈË¿ìÊÖ, a gofynnir i chi dicio’r blwch caniatâd wrth lenwi’r ffurflen hon cyn cyflwyno eich gwybodaeth. Gallwch dynnu’r caniatâd hwn yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni yn 5050project@bbc.co.uk. Efallai y bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ hefyd yn rhannu gwybodaeth am y gronfa ddata â chwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n creu cynnwys ar gyfer y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Rydyn ni’n defnyddio cwmnïau eraill i’n helpu i gyflwyno’r gronfa ddata ac efallai y byddwn yn gofyn iddyn nhw brosesu gwybodaeth amdanoch chi ar ein rhan.
Bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn cadw'ch gwybodaeth am dair blynedd. Yna, bydd y wybodaeth yn cael ei hadolygu i sicrhau cywirdeb a’ch bod yn dymuno aros ar y gronfa ddata. Os hoffech i’r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddileu eich data, neu os hoffech ddiwygio neu ddiweddaru eich data personol, cysylltwch â ni yn 5050project@bbc.co.uk.


Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Yno hefyd, cewch ragor o wybodaeth am sut mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn prosesu’ch gwybodaeth a sut gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r ³ÉÈË¿ìÊÖ. Os bydd anghysondeb rhwng y Polisi a'r hysbysiad hwn, yr hysbysiad hwn fydd drechaf.


Os byddwch yn mynegi cwyn i’r ³ÉÈË¿ìÊÖ am y ffordd y gwnaeth drin eich gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio. Yn y Deyrnas Unedig, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).