成人快手

Darlith Guto Bebb

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Guto Bebb AS, Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Aberconwy

Er mwyn nodi hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen 成人快手 成人快手 Service, mae Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a'u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.

Darlith Guto bebb

Efallai mai fi yw"r unig un, ond mae enw Saunders Lewis yn golygu fy mod, bron yn ddiarwybod yn dechrau meddwl am Geraint Jarman. Rhyfedd o beth o ystyried cyfraniad aruthrol Saunders i"r Gymru sydd ohonni , ac eto gydag un g芒n fer o 1987, sef 'Nos da Saunders", y mae yna gysylltiad parhaol wedi ei wneud yn fy meddwl rhwng un o feddylwyr mawr gwleidyddol y Gymru Gymraeg a"r artist wnaeth, yn fwy na neb, sicrhau fod y gair 'cwl" yn gallu sefyll law yn llaw a diddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg wrth i mi dyfu fyny ddiwedd y 70au a"r 80au cynnar. Serch hynny, o ystyried ei gyfraniad, efallai fod Geraint Jarman yn berthnasol iawn i"r drafodaeth hon heddiw. Chwarter canrif wedi darlith 'Tynged yr Iaith" roedd Jarman yn cyfleu methiannau"r ymgyrch iaith a ddatblygodd o ganlyniad i"r ddarlith, mewn modd sy"n parhau"n berthnasol i ddadl heddiw. Yn wir, efallai fod yr hyn a ragwelwyd gan Geraint Jarman ddiwedd y 70au yn fwy perthnasol i drafodaeth yn 2012 nag yr oedd pan ryddhawyd caneuon fel 'Bourgois Roc" a 'Gwesty Cymru" ddiwedd y 70au. Yn fras, rwyf am awgrymu fod 'Tynged yr Iaith" wedi creu chwyldro, ond chwyldro ar gyfer y dosbarth canol a gafwyd. Methiant mawr dadl Saunders Lewis oedd ei bwyslais ar bwysigrwydd Cymreigio sefydliadau, tra"n gwrthod yn llwyr yr angen am ymateb i edwino cyflogaeth yn yr union Gymru Gymraeg, o fewn sefydliadau y genedl yn frwydr oedd yn gynyddol gael ei hennill. Ond ai buddugoliaeth wag oedd hynny? Dyna"n union awgrym Geraint Jarman wrth iddo ganu

"Ond mae pawb yn iawn
Mae nhw"n byw"n gyffyrddus
Ond mae pawb yn iawn
Mae nhw"n gwisgo"n deidi i swpera yn y nos.."

Yr hyn a gollwyd o ganlyniad i ddarlith Saunders Lewis oedd dim llai na chwyldro deallusol ar gyfer y dosbarth canol, a"r rhai hynny oedd yn ysu i fod yn rhan o"r dosbarth canol Cymreig nad oedd hyd y 60au wedi gweld y cyfle i sicrhau statws, swyddi a chyfoeth cymharol. Llwyddiant y dosbarth canol deallusol yng Nghymru oedd creu statws a safle iddynt eu hunain, a hynny oll drwy gyfrwng brwydr am hawliau iaith- hawliau nad oes nemor neb yn eu defnyddio. Yn y cyfamser mae"r Gymru Gymraeg oedd yn bodoli ym 1962 wedi edwino, crebachu ac mewn nifer o ardaloedd, wedi diflannu. Yn y cyfamser mae"r wladwriaeth wedi trefnu yn rhyfeddol gan gyflogi a gwerthfawrogi y rhai hynny sydd a sgiliau mewn dwy iaith, er mai un sy"n cael ei defnyddio yn amlach na pheidio. Ystyriwch y ffeithiau - ym 1966 mewn ardal sy"n cymharu"n weddol agos gyda siroedd presennol Caerfyrddin, Penfro, Ceredigion, Maldwyn, Gwynedd, Ynys M么n, Conwy a Dinbych roedd ychydig dros 17% o bobl yn gweithio yn y sector gyhoeddus. Mae"r cyfanswm hwn bellach yn ddwywaith gymaint gyda 35% yn gyflogedig gan y pwrs cyhoeddus. Y mae"r canfyddiad hwn hefyd yn anwybyddu y twf rhyfeddol mewn swyddi sydd yn ddibynnol ar y pwrs cyhoeddus yng Nghaerdydd sef cyrchfan naturiol bellach i blant dosbarth canol y fro a arferai fod yn naturiol Gymraeg eu hiaith. Da o beth yw gweld y Cymreigio yma ar Gaerdydd, ond ag eithrio llwyddiant amlwg i ddatblygu addysg Gymraeg, sef rhan o"r chwyldro hawliau daniwyd gan 'Tynged yr Iaith" pa sefydliadau, busnesau neu wasanaethau Cymraeg sy"n rhydd o bwrs y wlad, a sefydlwyd yng Nghaerdydd gan y deugain mil o frodorion sy"n byw yn y ddinas gan ddefnyddio eu Cymraeg i sicrhau swyddi? Ond yn 么l at fy nadl: yn 'Tynged yr Iaith" mae Saunders Lewis yn dyfynnu RW Lingen yn helaeth o"r Llyfrau Glesion a gyhoeddwyd ym 1847 a hynny i wneud pwynt amddiffyn newid sylfaenol yn sefyllfa gymdeithasol y Gymraeg. Y dyfyniad allweddol i mi yw"r canlynol:

"Whether in the county or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale."

Yn rhinwedd y chwyldro mewn hawliau ieithyddol sefydliadol, nid gwir mo hyn bellach, hyd yn oed os oedd modd cynnal dadl am barhad y sefydliad a ddisgrifiwyd gan Lingen yng nghyd-destun 1962 nid felly y sefyllfa yn 2012. Ym mhob maes o fewn y sector gyhoeddus mae"r angen i chwarae"r g锚m hawliau"r iaith yn bodoli hyd yn oed os oes yna ddim mwy na datganiad fod y Gymraeg yn ddymunol. Er nad ydyw"r Gymraeg wedi ennill ei phlwyf fel iaith weinyddol ag eithrio fel Cyngor Gwynedd, Bwrdd yr Iaith ac ambell adran arall o Lywodraeth, y mae"r fantais o fod yn gyfforddus ddwyieithog wedi sicrhau swyddi i nifer sy" braidd wedi gwneud dim defnydd o"r iaith yn dilyn rhoi tic i"r blwch ynghylch gallu ieithyddol ar y ffurflen gais. Bellach, yn groes i honiad R.W. Lingen yn 1847 a honiad Saunders Lewis yn 1962 mae 'na sector gyhoeddus ym mhob rhan o Gymru yn gweld cynrychiolaeth sylweddol o Gymry sy"n defnyddio hawliau iaith fel sail i gais am swydd cyn gwneud digon 'chydig wedyn i hyrwyddo"r iaith o fewn y gweithle. Yn y cyfamser mae y Gymraeg fel iaith naturiol y gymdeithas yn edwino"n gyflym. Yn stadau cyngor Llanrwst, Penmaenmawr a Llanfairfechan cilio y mae"r iaith twy gyfuniad o allfudo oherwydd diffyg swyddi a mewnfudo gan y rhai hynny sy"n gweld byw ar fuddsoddiadau yng Ngogledd Cymru yn well dewis na gwneud hynny ym maestrefi Lerpwl a Manceinion. Hyd yn oed yng Nghaernarfon a"r pentrefi o amgylch tref Gymreiciaf Cymru, tydi cyflogaeth sylweddol a bron 100% y Cymry Cymraeg o fewn y Cyngor Sir heb arbed yr ardal rhag gweld y Gymraeg yn colli tir. Gyda cholled ffatrioedd fel Bernard Wardle a Ferodo - beth ddaeth yn eu lle? Ugain mlynedd o gwmn茂au teledu yn hollol ddibynnol ar fympwy rheolwyr yng Nghaerdydd neu wleidyddion yn Llundain a chwmniau cyfieithu yn byw yn fras ar oblygiadau deddf iaith 1993. Nid syndod gweld patrwm 'ni a nhw" bellach yn datblygu yn y dref. Y cam nesaf fydd cadarhau y gwahaniaeth hwn ar sail ieithyddol. Methiant mawr 'Tynged yr Iaith" oedd gwadu"r cyd-destun ar gyfer datblygu a chynnal iaith, sef gwaith. Er gwaethaf cydnabyddiaeth yn ei ddarlith fod gwaith yr Athro Brinley Thomas wedi dangos cyfraniad i chwyldro diwydiannol i gynnal y Gymraeg, anwybyddu"r dystiolaeth wnaeth Saunders Lewis, drwy ddatgan wrth drafod y polisi ar ddenu diwydiant i ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Hoelen arall ydi hi yn arch yr iaith Gymraeg. Yr un ddadl a geir heddiw yn achos Wylfa B. Efallai fod hynny"n gywir am bolisi oedd yn pwyso ar gymorth llywodraeth i ddenu buddsoddiad allanol i froydd Cymraeg yn y 60au, ond heb waith, ai syndod yw gweld crebachu eu cymunedau Cymreiciaf? Y cyfrannwr mwyaf craff ynghylch hawliau iaith yn ystod degawd cyntaf yr 21g ydyw"r Dr. Simon Brooks. Mae ei ddadleuon am hawliau a normaleiddio iaith yn heriol ac yn berthnasol i un math o Gymro Cymraeg. Beth, serch hynny, ydyw byrdwn ei neges i"r di-waith yng nghefn gwlad? Nid trwy ddeddfu bellach y mae cynnal y Gymraeg ond trwy ddatblygu hyder a bwriad i beidio bod yn ddibynnol ar y wladwriaeth am achubiaeth.

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu"n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a"r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.

Nid rhywbeth sy"n digwydd i ni ddylai"r economi fod, ond yn hytrach ein dyletswydd yw gafael yn yr economi a"i blygu a"i ddatblygu i"n anghenion fel unigolion a chymdeithas. Pam na all yr hyn sydd wedi digwydd yn Slofenia a"r Wladwriaeth Tsiec ddim bod yn ateb i"n anghenion ninnau yma yng Nghymru? Er gwaethaf buddugoliaeth gymharol y frwydr dros hawliau iaith y sector gyhoeddus, buddugoliaeth wag a gafwyd, os nad oes gennym yr hyder i fynd i"r afael 芒 hawlio"n rhan ni o"r peiriant pres.

Wrth i mi gau pen y mwdwl ar yr ychydig eiriau hyn, bu i mi daro mewn i dy bwyta newydd yng Nghaernarfon er mwyn ail ddarllen fy sylwadau dros goffi. Dros awr ginio roedd y lle yn llawn, a bron pawb o staff y cyngor a"r amrywiol gyrff sy"n ddibynnol ar y sector gyhoeddus. Yr oedd yr awyrgylach yn braf a"r adeilad wedi ei adfer yn wych gyda"r fwydlen, uniaith Saesneg, yn cynnig amrywiol ddanteithion am bris rhesymol. Gwyddel o Lundain ydi"r perchennog sydd wedi mentro, gan greu nifer o swyddi yn y broses. Mewn llawer ffordd yr oedd yr olygfa yn cadarnhau fy mhryderon. Y dosbarth canol yn gyfforddus yn eu swyddi sy"n ddibynnol ar bwrs y wlad, gyda"r penderfyniad i fentro a llwyddo yn syrthio ar ysgwyddau mewnfudwr. Her i un grwp o gymdeithas a gafwyd yn 'Tynged yr Iaith"- bu"n gatalydd i achub math o Gymreictod. Ond fel ateb i dynged yr iaith,yr oedd y targed yn un anghywir. Ni all unrhyw iaith fyw ar sail un dosbarth yn gweithio mewn un sector o gyflogaeth. Yn anffodus, dyna i raddau helaeth ydyw canlyniad hanner can mlynedd o ymgyrchu am hawliau iaith- Hawliau i leiafrif- dim i"r mwyafrif, a"r Gymraeg fel iaith gymunedol, fyw, yn prysur edwino.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.