Guto Brychan (Trefnydd Maes B)
- Radio Luxembourg
Yn dilyn rhyddhau eu sengl gyntaf P诺er y Fflwer/Lisa Magic a Porva ddiwedd 2005, mae eleni yn argoeli i fod yn flwyddyn fawr iddyn nhw. Gobeithio y bydden nhw'n gigio mwy yn ystod 2006.
- Genod Droog
Dyma brosiect newydd Dyl Mei, Geth Evans (Kentucky AFC) a Ed Holden gynt o Pep Le Pew. Mi oedd eu gig cyntaf nhw yng Nghlwb Rheilffordd, Bangor fis Rhagfyr y llynedd, ac mi oedden nhw'n fand oedd yn amlwg yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan, band parti da! Mi fydd Genod Droog yn mynd ar daith 'TEW' ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror o amgylch Cymru.
- Briwsion
Dyma fand Gwion gynt o Murry The Hump a The Keys. Dim ond ychydig o gigs wnaethon nhw yn 2005, ond band byw da iawn. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddyn nhw yn ystod y flwyddyn.
Ian Cottrell (Cyflwynydd a DJ)
- We Are Scientists
Band o America wnaeth ryddhau cwpl o senglau yn 2005, mi aeth eu sengl The Great Escape i fewn i'r 40 uchaf fis Hydref y llynedd. Os ydach chi'n hoffi'r Killers, mi fyddwch chi'n siwr o fwynhau cerddoriaeth We Are Scientists. Bydd eu sengl nesaf It's a Hit allan yn fuan.
- Panic! At the Disco
Mi ddaeth Ian ar draws y band yma ar wefan purevolume.com. Mae cerddoriaeth y grwp ifanc o Las Vegas yn debyg iawn i gerddoriaeth y grwp o'r Bontfaen The Automatic. Mi fydd Panic! At the Disco yn perfformio ym Mryste yn hwyrach yn y flwyddyn.
- Tangwystl
Grwp ifanc o ardal Gaerfyrddin wnaeth berfformio ar daith C2/Bandit llynedd. Band sy'n llawn agwedd efo prifleisydd carismatig. Mae Tangwystl yn atgoffa Ian o Texas Radio Band ifanc.
Esyllt Williams (Rheolwr label Ciwdod)
- Clinigol
Gobaith Esyllt ydi cael gweithio efo Clinigol yn ystod 2006, gan eu bod nhw'n fand cyffrous ac arbrofol iawn. Mae'n braf cael clywed cerddoriaeth electropop Cymraeg, a mae s诺n Clinigol yn debyg iawn i s诺n Goldfrapp, gyda artistiaid gwahanol yn perfformio ar bob trac.
- Dyl Bili
Ar 么l gweld set byw gan y DJ Dyl Bili a'i fand yn Miri Madog y llynedd, mae Esyllt yn edrych ymlaen i glywed stwff newydd ganddo yn 2006.
- Swci Boscawen
Mae'n braf cael tipyn o glamour yn y sin roc, a dyna'n union 'da chi'n ei gael gan Swci. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddi hi a'i band eleni. Albym newydd efallai?
- Steffan Cravos a Geraint Francon
Mae Esyllt wedi clywed si fod Steffan (Sleifar) a Geraint (Stab Master Vinyl) wedi dechrau gweithio ar stwff newydd gyda'i gilydd. Os yw hyn yn wir, mi fyddwn ni'n edrych ymlaen i chwarae eu caneuon newydd ar C2 yn y dyfodol.
- Wyrligigs
Band newydd ifanc arall o'r gogledd, wnaeth berfformio yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd yn ddiweddar, a chael ymateb da iawn. Mi fydd sengl gyntaf y band allan ar label Ciwdod fis Mawrth.
Dyl Mei (Cynhyrchydd)
- Derwyddon Dr Gonzo
Band newydd ifanc o Wynedd, wnaeth enillydd Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Eryri y llynedd. Mi fydd sesiwn gan y band i'w glywed ar C2 yn fuan.
- Llan Clan
Dyma'r band diweddara i ddod o Flaenau Ffestiniog. Ymddangosodd un o'u caneuon ar CD aml-gyfrannog Gwallgofiaid yn ystod 2005.
- Plant Duw
Plant Duw oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B 2005, band arbennig o dda yn fyw yn 么l Dyl Mei, mae'n edrych ymlaen i glywed y sesiwn ma' nhw wedi ei recordio ar gyfer C2.
- Jen Jeniro
Grwp ifanc o ardal Llanrwst gafodd y cyfle i berfformio ar daith deyrnged i'r Cyrff, sef Cymru, Lloegr a Llanrwst flwyddyn diwethaf. Gobeithio y byddan nhw'n gigio mwy yn ystod 2006.
- Mr Phormula
Dyma brosiect Ed Holden, oedd arfer bod yn Pep Le Pew efo Dyl Mei. Edrychwn ymlaen i glywed albym cyntaf Mr Phormula fydd allan yn hwyrach eleni.
Am fwy o fanylion am CD's newydd .
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.