Mae rhestr fer y 'Mercury Music Prize' newydd eu cyhoeddi, ag ymysg y 12 band / artist ar y rhestr, mae Neon Neon.
Un o brosiectau Gruff Rhys - prif-leisydd y Super Furry Animals - yw Neon Neon, ac fe gychwynodd gyd-weithio gyda'r cynhyrchydd Boom Bip ar yr albym 'Stainless Style' yn 2006, ac fe ryddhawyd yr albym honno yn gynharach eleni.
Mae C2 wedi dilyn datblygiad Neon Neon ers y dyddiau cynar, ac ar raglenni Huw Stephens a Lisa Gwilym y cafodd rhai o ganeuon yr albym eu chwarae am y tro cyntaf ar unrhyw orsaf radio. Yn ogystal a hyn, daeth Gruff Rhys ar C2 yn westai efo Daf Du pan ryddhawyd yr albym, a galli glywed y cyfweliad eto drwy .
Ymysg yr enwau cyfarwydd eraill ar y rhestr fer eleni, mae Adele, Elbow, Estelle, The Last Shadow Puppets, Roberts Plant ac Alison Krauss, a Radiohead.
Bydd y wobr eleni yn cael ei chyflwyno mewn seremoni fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar 成人快手 2, ar 9fed Medi, felly pob lwc i Neon Neon (a'r holl fandiau eraill)!
Dyma'r enwebiadau yn llawn:
Adele - 19
British Sea Power - Do You Like Rock Music?
Burial - Untrue
Elbow - The Seldom Seen Kid
Estelle - Shine
Laura Marling - Alas I Cannot Swim
Neon Neon - Stainless Style
Portico Quartet - Knee-Deep In The North Sea
Rachel Unthank & The Winterset - The Bairns
Radiohead - In Rainbows
Robert Plant & Alison Krauss - Raising Sand
The Last Shadow Puppets - The Age Of The Understatement
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.