成人快手

Anrhegion 'Dolig!

Daniel Lloyd

I'r rhai ohonoch chi sydd heb ddechrau hyd yn oed meddwl am brynu anrhegion Nadolig i'ch teulu a'ch ffrindiau - wel mae criw C2 ar gael i gynnig help llaw.

Gyda llai na tair wythnos i fynd tan yr W欧l, ma' 'na lwyth o fandiau 'di rhyddhau cryno ddisgiau ar gyfer y 'Dolig, a dyma ambell awgrym i chi!

Senglau
Beth am sengl newydd Gruff Rhys gafodd ei ryddhau yr wythnos yma ar label . Dwy g芒n sydd ar y finyl saith modfedd sef y brif sengl Candylion a Colossal Smile.
Hefyd mi gewch chi oriau o hwyl yn creu y losin lew o garbod sy'n dod efo fo am ddim!

Hefyd allan yr wythnos yma ar label mae sengl Nadoligaidd cynta' Daniel Lloyd a Mr Pinc sef Rhagfyr o Hyd, a fel sypreis bach neis ar yr EP mae fideo o'r g芒n sy'n werth ei weld!

Wythnos diwethaf, mi ddaeth Si么n Corn cwmni i swyddfa C2 efo finyl newydd Brigyn sy'n cynnwys y caneuon Jericho, Buta efo'r Maffia a T欧 Bach Twt - campwaith!

Albyms
Mi wnaeth un o artistiaid newydd sef Dyfrig Topper Evans ryddhau ei albym unigol cyntaf yr wythnos diwethaf sef Idiom. Albym ddwyieithog gafodd ei gynhyrchu yn Stwidio Bryn Derwen gan David Wrench.
Bydd cyfle hefyd i weld Dyfrig ar S4C dros y 'Dolig mewn drama arbennig sy'n dilyn hanes gwr o'r enw Ellis Williams a gafodd ei allfudo o Gymru ar droad y ganrif ddiwethaf am iddo gael ei gyhuddo o ladrata ar dir St芒d Y Faenol, Bangor - swnio'n ddiddorol!

Hefyd dros y penwythnos daeth taith hyrwyddo Yr Eira Mawr, sef trydydd albym Mim Twm Llai ar label i ben. Dyma'r albym olaf i Gai Toms ei ryddhau o dan yr enw Mim Twm Llai medde fo yn ddiweddar. Anrheg Nadolig perffaith ar gyfer Mam a Dad, a Nain a Taid a unrhywun a dweud y gwir!

Nos Wener yma bydd noson go arbennig yn cael ei gynnal yn Ty Newydd Sarn, sef noson lawnsio albym newydd Kifty sef Mynd i'r Jel.
Mae C2 wedi bod yn chwarae traciau oddi ar yr albym newydd ers sbel bellach, a bydd cyfle i brynu'r albym ar y noson. Am fwy o wybodaeth ewch i

Ac yn olaf, os oeddech chi'n rhy feddw i gofio 'Steddfod Abertawe eleni, yna mae Frizbee yn rhyddhau set byw o'u perfformiad nhw yn Maes B. A enw'r CD, wel yn syml 'Frizbee - yn fyw o Maes B.' Bydd y CD ar gael yn eich siopau lleol o 18 Rhagfyr ymlaen. CD fydd ar restr Nadolig llawer mae'n siwr. Am fwy o wybodaeth am Frizbee ewch i'w safle gwe newydd nhw sef

Am fwy o awgrymiadau am CD's i'w prynu fel anrhegion Nadolig .

Annwyl Si么n Corn.,
Gaf i........

Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.