Main content

Aberystwyth v Caerdydd v Port Talbot

Straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal Jal a鈥檜 profiadau mewn tair ardal wahanol.

Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a鈥檜 profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru.

Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi鈥檔 meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nhw wedi newid.

Oes gwahaniaeth rhwng magwraeth ddinesig a chefn gwlad? A pam fod disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol?

Yn y bennod agored ac emosiynol yma mae Mel, Mal a Jal yn ailymweld 芒 phrofiadau ffurfiannol da a drwg, yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth weladwy a鈥檔 gofyn beth all cymdeithas ei wneud yn well.

Yng ngeiriau Mal: 鈥淒ychmyga byddom ni鈥檔 adnabod ein gilydd yn 8 oed, faint byddai rhannu'r profiadau yma gyda鈥檔 gilydd wedi helpu鈥.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

53 o funudau

Podlediad