Cerdd 'Cyfarwyddiadau' gan Ceri Wyn Jones
Cyfarwyddiadau
(i Ifan, ar ei ymweliad cyntaf â Pharc y Scarlets)
Os collwn ni ein gilydd yn y crowd,
arhosa di wrth gerflun Graf, ocê?
Saf yno. Paid ag ofni. Bydd yn browd
dy fod ti’n sefyll yn ei ymyl e.
Ac er bod dynion dierth ymhob man
sy’n hidio dim amdanat, mwy na’r glaw,
saf yno, bydd yn ddewr a drycha lan
i fyw ei lygaid; cydia yn y llaw
sy’n cadw’r gelyn draw, nid canu’n iach,
ac yn y fraich fawr gre sy’n dal y bêl
mor dynn, fel tad yn cwtsio’i blentyn bach,
y bêl sy’n Gymru gyfan, doed a ddêl.
Saf yno, ac ni phoenaf i ddim oll –
wrth gerflun Graf, ni fyddi di ar goll.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03