Y Gofid gan Emyr Davies
Y Gofid
Mae e’n gyfnod od o hyd
A’r haf yn bryder hefyd;
Ei foreau’n afreal
A phob trefn drachefn ar chwâl.
Ymbellhau; ac ambell un
Yn ymdopi am dipyn,
Yn gweld anwyliaid heb gwrdd
Yng nghyffion sgrin anghyffwrdd.
Ar yr hewl at yr aelwyd
Y daw’r fan â’i stôr o fwyd:
Nhw yw sgwad y sgwrs-a-gwên –
I eiddilwch yn ddolen;
Rhai dinod, rhai dienw
Y byddai’n od hebddyn nhw,
O dŷ i dŷ eto’n dod
Gan nacáu ofnau’r cyfnod.
Rhaid diolch i’r rhai diwyd
Am eu gwaith drwy’r storm i gyd,
A gwn yn iawn yr awn ni
Ymlaen drwy storm eleni.
Mae’n anochel dychwelyd
I allu byw mewn gwell byd,
A daw’r adar byddarol
Â’r haf yn araf yn ôl.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03