Stadiwm Wag - Cerdd gan Geraint Roberts
Geraint Roberts yw Bardd y Mis ar Radio Cymru
Stadiwm Wag
Ein stadiwm wag mor agos
yw ein hofn bob dydd a nos;
gofidiau鈥檙 oriau aros.
Yn y dirgel mae鈥檙 gelyn,
un a ddaeth i鈥檙 meysydd hyn
芒鈥檌 uffern i鈥檙 amddiffyn.
Diwyneb wrthwynebydd,
grymusach yw鈥檙 gormesydd
yma鈥檔 chwarae鈥檙 caeau cudd.
O鈥檔 cwmpas o鈥檙 terasau
ambell liw sy鈥檔 ymbellhau;
y deyrnas heb Sadyrnau.
Yn fisoedd heb ddefosiwn
ac yn anochel gwelwn,
ar wahan mae curo hwn.
Heddiw yn ein caethiwed
cae yr un trwy鈥檙 haint yw鈥檔 cred,
g锚m unig i gymuned.
Yn ein crysau鈥檙 dyddiau du
unwn yn y gwahanu,
i sgorio wrth wasgaru.
Trwy鈥檙 hunllef heb gam-sefyll
awn tua鈥檙 tymor tywyll
a churo鈥檙 un chwarae hyll.
Fel magnel mae鈥檙 tawelwch,
anniddig yw鈥檙 llonyddwch
a daw鈥檙 hwyr 芒鈥檌 boen yn drwch.
Wedi鈥檙 erlid a鈥檙 hirlwm
awn 芒鈥檙 llu o鈥檙 muriau llwm,
dod wedyn n么l i鈥檙 stadiwm.
Yno fel un awn 芒鈥檙 floedd
i liwiau鈥檙 eisteddleoedd,
yfory mewn niferoedd.
Buan heb ffwdan na ffws,
beunydd fe ddaw ein bonws
a VAR i鈥檙 feirws.
脗鈥檙 chwiban o鈥檙 cylch canol
a thrachefn o gefn y g么l,
fe ddaw awr, torf fyddarol.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03