Cerdd Siop Griffiths gan Karen Owen - Bardd mis Mawrth
Cerdd gan Karen Owen am Siop Griffiths ym Mhenygroes, siop oedd yn gwerthu popeth dan haul
SIOP GRIFFITHS
dw i'n 么l wrth y cowntar, ac mae'r list yn hir -
dw i isio sosban, a phowlan Pyrex glir,
un cwpan a sosar patrwm bloda m氓n,
sacha duon a doilis a chlamp o raw d芒n;
gwell cael pen i'r mop, cyn eith hi'n rhy hwyr,
a Brasso, a blocyn o bolish cwyr,
ga'i focsaid o wenwyn i ladd llygod mawr,
a choes hir, newydd i'r hen frwsh llawr;
bracet dal llun, ac ornament,
un trywal i'r ardd, a micsiad o sment;
tun hanner galwyn o breimar, a ffiws,
a dwy, naci tair... na, pedair o sgriws;
dwy r么l Anaglypta, a bagiad o bast,
ac ma'n well bachu u-bend i'r beipan wast;
ga'i garna i'r cyllyll, ga'i gannwyll a llwy,
ga'i fun heb olwynion, a chanistr nwy;
氓'i drwadd o'r siop i w芒l yn y cefn,
am gwaral o wydr nain bai sefn,
a thra ydw i yma, ga' i yndyrc么t du
a phwys a hanner o bwti cry';
un bl毛d wedi'i lapio'n y Daily Post,
tair llathan o g锚bl heb boeni am y gost,
deg troedfadd o raffan i'w chlymu hi'n dynn,
chwe socet, a bylbia i'w cadw ynghynn.
mi ro'n nhw pob goriad sy'n gam trwy y feis,
a thorri fy hardbord i'r union seis;
rhoi min ar y cryman a saim yn y clo,
a phetrol tw-str么c yn yr hofyr-mo...
ac fel'na yr oedd hi, ac felly y cawn,
pan oedd mynd ar Siop Griffiths, a'i silffoedd yn llawn.