Main content
Cerdd i Mam
Mam
Yn sŵn clician ei gweill diwyd
Lluniodd ddarluniau cain,
Llawn cysur.
Y pwythau gwastad yn dynn
A’r lliwiau’n cyfareddu.
Arafodd y gweill
A llaciodd y pwythau,
Cyn datod
O un i un.
Pylodd y lliwiau
Gan adael dim ond arlliw
O’r tanbeidrwydd a fu.
Ond heddiw,
A’r gweill mor dawel,
Mae’r darluniau eto
Yn llachar yn y cof.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mawrth 2018 - Beryl Griffiths—Gwybodaeth
Beryl Griffiths yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2018..
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03