Main content

Sgwrs a cherdd gan fardd mis Rhagfyr, LlÅ·r Gwyn Lewis.

Bardd y mis, LlÅ·r Gwyn Lewis.

Y cyntaf o Ragfyr

Wel dyma fo’n dŵad eto dros y bryn,
’r un fath bob blwyddyn, ac eto’r un faint o sioc
pan ddaw. Mae hi’n teimlo’r pinsiad, os nad y dwrn
drachefn; trio cofio popeth drw’r dyddia prin.

’R un hen ganeuon yn y siop, r’un rigmarôl:
cofio ordro twrci, nôl coeden, a dal y post,
’r un hen adfyrts, yr un hen gyfri’r gost,
a’r hen hen gyffro’n drydan drwy’r plant a’r tŷ.

Na, mae hi’n falch mewn difri, yn edrych mlaen,
ond bod yr hen ddefodau cyfarwydd yn cydgynllwynio
â thwllwch-pen-blwyddyn i ddangos am eiliad, mor blaen
a llachar â golau’r goeden, be sy’n wahanol hefyd:

y trimings a’r tinsel na ddônt lawr o’r atig leni,
angylion wedi colli’u adenydd; sêr wedi symud i ffwrdd.
Sôn am yr addasu mae hi wedi gorfod ei wneud!
Y rhai fydd ddim yno hefo nhw wrth y bwrdd…

Felly rŵan, mae hi’n dianc, rhag y bargeinion,
rhag siars y radio i gofio gwir ystyr yr ŵyl
a disgwyl cynnes ei phlant y daw hi adra’n gwenu:
dim ond am eiliad. Troi o’r miri a’r hwyl

heb ddeud wrth neb. A neb i’w gweld hi yno,
i eglwys dywyll, dawel mewn stryd gefn,
rhoi sŵn y traffig tu allan i guddio dan glustog
y piw, gwrando’r côr yn ymarfer; nabod y drefn,

cymryd ei thynnu gan donnau chwydd a gosteg,
ymgolli’n sŵn yr organ fel gair o gariad
heb goelio, o reidrwydd, yn unpeth ond yn y golau
a bodio siâp y geiria’. ’R un hen garolau
all dorri a chodi’i chalon mewn un symudiad.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau