Main content
Cof golofn Drefach, Llanybydder.
Cof golofn Drefach, Llanybydder.
(Ail osodwyd y gof golofn eleni er mwyn codi Ysgol Dyffryn Cledlyn.)
Mae milwr mud wrth gat yr ysgol
A’i eiriau’n garreg.
Hen eiriau,
Hen enwau
Ffrindiau. Ar gof a chadw
A’u haberth a’u hunllefau’n hofran
ger y cae chwarae.
Plant.
Cwrso. Cicio pêl
A chwato. Coed, cloddiau.
Dyffryn fyw yn blasu rhyddid
Rhwng clychau.
Ym mynd a dod yr hewl
A chylchdro’r plwy’
Saif amser.
Saif yr enwau hefyd.
Ond gwers ddrud fydd hi
A chwerw fydd chwarae,
Os na
ddysgwn o’u hunllefau.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Tachwedd 2017 - Heiddwen Tomos—Gwybodaeth
Heiddwen Tomos yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2017.