Cerdd Wythnos Dementia 'Cymydog'
gan fardd y mis Geraint Lloyd Owen
Cymydog
yn Ysbyty Alzheimer鈥檚, Bryn Seiont, Caernarfon
Wrth lusgo鈥檌 ffr芒m lydan
at wydr y cartref
yn ward anghofrwydd
fe鈥檌 gwelwn fel coeden gnotiog
yn bwrw鈥檌 gwreiddiau
wrth wres t芒n trydan.
Roedd ei lais
mor arw a rhisgl,
ei ddwylo yn geinciau i gyd
a phridd ei gynefin
o dan ewinedd ei fodolaeth.
Ond ar ei ddyfodiad i鈥檙 ward
medrwn ffroeni drachefn
arogleuon gweiriau
ac anadlu鈥檙 pridd a鈥檙 haul.
Cyfarwydd yr adar ydoedd.
Deuent yn enfysau byw
at droed ei wely fin hwyr.
Clywai nodau eu c芒n
nes diferu ohonynt
yn ddefnynnau hud
drwy ddrysni ei farf,
a gwelai brintiadau eu traed
yn troi鈥檔 eiriau
yng ngaeaf tragwyddol yr ardd.
Yntau鈥檔 adrodd y stori
drachefn a thrachefn
ar wynder gwely ei lofft
cyn i gwsg anesmwyth
gloi鈥檙 amrannau yn dynn.
Bellach yn ei fodfedd fyd
y mae o wedi鈥檌 gloi
mewn cartref,
mewn ystafell,
mewn cadair
wrth wres t芒n trydan,
a鈥檙 wynebau cyfarwydd gynt
yn wynebau dieithr mwy.
Tydio鈥檔 cofio dim
nac yn adnabod neb.
A thrwy wydr yn unig
y gw锚l o鈥檙 byd gloyw hwnnw
oedd iddo unwaith yn bod.
Geraint Lloyd Owen.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2017 - Geraint Lloyd Owen—Gwybodaeth
Geraint Lloyd Owen yw bardd radio Cymru ar gyfer Mis Mai 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
O na fyddai'n Haf o hyd!
Hyd: 12:30
-
Nadolig yng Ngwlad Pwyl
Hyd: 07:23