Port Talbot
A hud y lleuad llawn
arian
oer
mor bell o鈥檔 byd
yn llusgo llanw lliw dur
o gyfandir i gyfandir,
a chroeswyntoedd y marchnadoedd mawr
yn chwerthin trwy goridorau grym
ac yn poeri ewyn i wyneb dyn,
mae cwtsh o deulu
yng nghwch bach eu cartref
yn cyfri eu ceiniogau
dros fins ar d么st,
a chadwyn hen angor trwm
yn bygwth llithro,
ddolen wrth ddolen,
trwy ddwylo garw鈥檙 g诺r
a chwipio鈥檜 byd
megis deilen i鈥檙 fagddu
sydd am fygu鈥檜 fflam dragwyddol,
a gadael dim
ond adlewyrchiad lleuad oer
yn ofn yn eu llygaid llawn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2016 - Rocet Arwel Jones—Gwybodaeth
Rocet Arwel Jones yw Bardd Y Mis ar gyfer Ebrill 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 成人快手 Radio Cymru.
Mwy o glipiau 04/04/2016
-
Aberth Peldroed
Hyd: 02:23
-
Taliad Sylfaenol
Hyd: 03:16
-
Tata
Hyd: 03:54
Mwy o glipiau Post Cyntaf
-
Chwarter canrif o'r Post Cyntaf
Hyd: 03:27
-
Doedd Caerdegog ddim ar werth
Hyd: 04:37
-
Ffarwel arbennig i Hari o Alder Hey
Hyd: 09:09