Deffro
DEFFRO
Deffra! Coda!
Ti 鈥榙i wastio鈥檙 bora.
Ty鈥檇, fydd hi鈥檔 鈥榝ory
Cyn i ti godi.
Diogi cysgu,
Pydru鈥檔 gwely.
Llais fy mam
o bellafoedd deugain niwl, a mwy,
yn drybowndian fyny鈥檙 staer.
Heddiw
llafn fy nhafod innau wedi鈥檌 hogi
a phen fy nhenyn yn agoshau.
Diogi cysgu
Pydru鈥檔 gwely.
Deffra! Coda!
Ti 鈥榙i wastio鈥檙 bora.
Ty鈥檇, fydd hi鈥檔 鈥榝ory
Cyn i ti godi ...
Dwi鈥檔 estyn fy llaw i鈥檛h ysgwyd ,
I鈥檛h ddeffro ...
Ond cosaf dy draed
A mwytho鈥檛h wallt,
A鈥檙 blynyddoedd yn llifo drwy fy mysedd;
Gwenaf ar fy mychan dyflwydd, bregus
Yn cysgu鈥檔 drwm,
A gwrando eto ar hwiangerdd dy anadl
Yn esmwytho,
Y gofidio ... yn ... ymlacio,
A 鈥榯h hunlle 鈥榤hell bell i ffwrdd.
Mae calon wadin dy fam
Am adael iti am dipyn eto
I bydru yn dy wely,
I ddiogi cysgu,
I wastio mymryn mwy o鈥檙 bora,
Mi ddaw dy fory ditha鈥檔 ddigon sydyn,
Ond am rhyw ronyn,
Am rhyw hyd,
Cwsg fy ngwas i,
Cwsg, a gwyn dy fyd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2016: Mair Tomos Ifans—Gwybodaeth
Bardd y Mis ar gyfer Chwefror 2016 yw Mair Tomos Ifans.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 成人快手 Radio Cymru.
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39