Main content

Edrych 'mlaen at brifwyl Meifod

Sgwrs Dylan Jones a bardd y Mis - Arwel 'Pod' Roberts.

Edrych 'mlaen at brifwyl Meifod

Bob mis Gorffennaf, r’un yw’r ddefod.

Mynd i brynu rhaglen Steddfod

A ffelt pen uwcholeuo felen,

Cyn syllu’n graff ar bob tudalen.

Wêdio wnaf trwy’r gweithgareddau,

Cyfarfodydd cymdeithasau,

Darlithoedd coffa, cystadlaethau,

Drama, sioeau, digwyddiadau,

Gigs llenyddol a chyngherddau.

Odl hawdd. Pentyrru geiriau.

Yna, bachaf ddarn o bapur

A dechrau llunio digwyddiadur.

Rhestr fer o’r pethau hynny

Mae gen i awydd eu mynychu.

Ond bob tro, mae’r stori’n debyg;

Mae’r rhestr faith yn troi’n fwy hyblyg.

Rhy sych yr araith am ffynhonnau.

Rhy wlyb y môr o demtasiynau.

Yn y Lle Celf, er trio ’ngorau

Mi fethaf wneud dim sens o’r darnau,

’Mond crafu gên a chrychu gwefus

A chocsio edrych yn ddeallus.

Mae hi’n rhy oer/rhy boeth/rhy wyntog

Rhy damp/rhy rynllyd neu’n rhy heulog

I gerdded yr holl ffordd o famma

I’r Babell Lên/Tŷ Gwerin/Cwt Drama.

Y lle Gwyddoniaeth a Thechnoleg?

Sgwrs Rhys Mwyn am archaeoleg?

Ffer plê, mae’r cradur erbyn rwan

Yn mynd i oed go dda ei hunan.

Gwrando ar Eurig Salisbury’n wrol

Drafod cerddi o'r Oesoedd Canol

Sy'n cynnwys mensh neu ddau at seintiau?

Neu'n ddefosiynol suddo peintiau?

Cymanfa o delynau teires?

Neu un delyn hudol Guinness?

Dauganmlwyddiant Thomas Gee?

Neu giwio am y lle pi-pi?

I be wna’i chwysu’n y Pafiliwn

A ffrindiau coleg ffansi sesiwn,

Gan gynnig brynu rownd i nadu

Bardd y Mis rhag dadhydradu.

Ond ar frig fy rhestr innau

Mewn inc coch, a phriflythrennau,

A’r cyfan wedi’i danlinellu

Ac asterisciaid lu o bobtu,

Mae un orchwyl dyngedfennol.

Rhaid i fi fod yn bresennol

Wrth Gylch yr Orsedd, i weld dynas

Yn cael ei hurddo o dan gynfas.

Petawn i’m yno, mi dw i’n gwybod

Na welwn i ddim mwy o’r Steddfod,

Mond gwely’n hosbitol Amwythig.

Cyfforddus, ond llai diwylliedig.

Syth o famma, mi af yno,

Jest rhag ofn i fi anghofio.

Ces fy ngalw yn ddwl droeon.

Ydw, dwl – ond dwi’m yn wirion…

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau

Dan sylw yn...