Christine James - Bardd Preswyl Ionawr
Bardd Preswyl Ionawr - Yr Archdderwydd Christine James yn sgwrsio efo Dylan Jones.
Dau Wynebog
Yn ôl yr hen Rufeiniaid, duw dechreuadau a newidiadau oedd Ianws, a chan hynny’n dduw drysau a gatiau ac agoriadau. Fe’i darlunnir yn aml a dau wyneb ganddo, y naill yn edrych tuag yn ôl a’r llall yn edrych tuag ymlaen. O’i enw ef, fe ddywedir, y daw enw mis Ionawr.
Saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog
gan guro’n daer am gael dod mewn i’n tai:
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.
Dan becyn o brofiadau mae e’n llwythog,
gŵyl, gras a gofid yw ei ddeunydd crai:
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog.
O’n blaen, fe daena ambell ddiwrnod heulog;
daw stormydd garw o’i bwn i guro rhai:
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.
O’i sach, tyn Ionawr a’i bibonwy miniog,
a’u dilyn, chwap, gan awel mwynder Mai:
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog.
Mae yn ei boced wg cymylau cuchiog
(ond dan ei het mae awyr las ddi-fai):
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.
Trown lygaid llynedd dros ei nwyddau oriog,
rhaid prynu lles y llanw, broc y trai;
saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog –
agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog.
Christine James
Dydd Calan 2015
Lluniwyd fel rhan o weithgarwch ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, a’i darlledu ar raglen Dylan Jones, 2 Ionawr 2015
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39