Main content

Cerdd Fawl i Ifan Evans

Ifan Evans ar C2.
Ifan Evans a pham lai.
Ifan Evans, un o’r sêr,
Ifan Evans, tedi bêr.

Ifan Evans YFC,
Ifan Evans ‘ti’ nid ‘chi’.
Ifan, bachan cader yw,
Ifan Evans, wit-a-whiw.

Ifan Evans, boi Man Iw,
Ifan Evans, dim un cliw.
Ifan Evans mewn pick-up.
Ifan Evans. Oh, shut up.

Ifan Evans, ffarm Tynrhos,
Ifan, crwt Pontrhydygrôs.
Ifan, Suarez tîm y Bont
(dannedd mowr a thacl front).

Ifan Evans ar gefn tractor,
Ifan Evans ar Fferm Ffactor.
Ifan Evans, Cardi solet
(weiren bigog rownd ei wallet).

Ifan Evans, un o’r Sipsiwn,
Ifan Evans ar bresgripsiwn;
Ifan Evans ar yr awyr,
Ifan Evans heb wrandawyr.

Ifan Evans, troellwr disgie,
Ifan Evans, heb ei wisg-e.
Ifan, y cyflwynydd gore
(heblaw rhai’r prynhawn a’r bore).

Ifan Evans, boi jocôs,
Ifan sydd yn mynd drwy’r nos.
Ifan Evans yn mwynhau
Ifan Evans ar C2!

cwj (7.10.14)

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o