Main content

CAERNARFON: C芒n ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

CAERNARFON: C芒n ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

Wedi鈥檌 daro yn fud ar 么l Cwpan y Byd, a llanastr ymgyrch Brasil,
Heb gysur i鈥檞 gael 鈥檙么l perfformiad mor wael, ymddiswyddo fu raid i Big Phil.
Penderfynodd mai gwell fyddai mynd i wlad bell, gwlad lle na fyddai鈥檔 cael ei ddifr茂o,
Ac felly Phil Fawr a ymlwybrodd i lawr at y cei er mwyn hwylio o Rio.

鈥橰么l dweud ei ffarw茅l, a hwylio am sbel, daeth i dref fach o鈥檙 enw Caer Saint,
lle chwiliodd Scolari am d卯m i鈥檞 reoli, a鈥檙 Caneris a gafodd y fraint.
A buan y canfu fod hen dref y Cofi yn lot gwell na鈥檙 Copacabana,
(Oc锚, does dim delw o Grist ar ben Twtil, ond 鈥檚na鈥檓 cerflun Lloyd Jorj draw yn fan鈥檔a).

Ond er bod y dre yn dipyn o le, doedd t卯m y crys melyn ddim cystal,
Felly galwodd Phil griw o Frasiliaid di-gliw i ymuno 芒 fo ar yr Oval.
A dyma nhw鈥檔 dod 鈥 y cyntaf oedd J么; cyn pen dim fe deimlai鈥檔 gartrefol,
鈥淒yffar Jo鈥 oedd efe i gefnogwyr y dre, am ei ddiffyg medrusrwydd sylfaenol.

Daeth Fred ar ei 么l, ond methodd y g么l, a glanio 鈥橬ghaerdydd yn y Bae,
Ond dim ots am hynny, daeth Alun Ffred fyny i gymryd ei le ar y cae.
Cyn hir fe ddaeth Maicon i鈥檙 Cofis yn eicon, fe鈥檜 clywn yn ei gyfarch yn llon
ar y Maes a Stryd Llyn, yn hwyliog fel hyn: fe waeddent yn ddyddiol 鈥淢a鈥檌 con鈥!鈥

Fedrai David Luiz ddim mynd llawer is ar y cae, ond mi fedrai o ganu
Ac yn salon Caprice gwelodd Sera Louise, a bellach 鈥檚dim modd eu gwahanu.
Ond methiant oedd Phil, doedd ei d卯m ddim yn bril, a phan gollwyd i d卯m Clwt y Bont,
Heb droffis i鈥檞 sgleinio, bu raid eto riseinio. Wel, 鈥檛ydi p锚l-droed yn g锚m front.

Geraint Lovgreen
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau