Main content

Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Yr Ymddiswyddiad

Rwy wedi cael llond bola ar fod yn hunangyflogedig.
Mae’r tâl yn amrywio o fis i fis, ac fel arfer mae’n siomedig.
Rwy ar gontract zero hours sy’n golygu, ambell ddydd,
na allaf fforddio prynu peint er bod gen i’r pnawn yn rhydd.
Bryd arall, rwy’n gorfod gweithio am ugain awr yn soled,
felly digon o arian i brynu peint, ond dim amser sbâr i’w yfed!
Y peth gwaethaf oll yw bod y bos yn cadw llygad barcud
ar bopeth rwy’n ei wneud o hyd, pob pensel rwy’n ei dwgyd.
Mae’n cyfri pob paned o goffi, pob bisged siocled hob-nob,
cyn tynnu gwerth y cyfan o bris terfynol y job!
Dyw’r bos ddim yn un i ganmol a ’sdim gobaith cael dyrchafiad,
a fi sy’n gorfod delio â phob cwsmer sy’n gwneud achwyniad.
Am naw o’r gloch bob diwrnod mae’n galw cyfarfod boreol
ac yn mynnu cael ei ffordd ei hun, ar ôl cyfri bod pawb yn bresennol.
Dyw e ddim yn cyfrannu at bensiwn nac unrhyw dâl gwyliau o gwbl
er y byddai, heblaw amdanaf i, mewn llawer iawn o drwbl!
Felly ymddiswyddo o fy swydd sy’n ddyletswydd arnaf i.
(Neu ‘Hunanymddiswyddo’ yw’r term swyddogol, am wn i.)
Rwy am chwilio am swydd arferol, sefydlog, gan rannu swyddfa.
Ond wedyn y drafferth yw nad yw’r bos yn fodlon sgwennu geirda!

Iwan Rhys
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau