Main content

CRANNOG: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Brawd Mogi yw Tagu

Ers amser Alf Ramsey rhyw arthwyr fu wrthi
O Wembley i Wembley yn rhegi’n un rhes,
Daeth Taylor a Telly, McLarren a’i frolly,
Ond colli, er hynny, fu’r hanes.

Ni welir Capello a’i natur byth eto,
Na Keegan yn cogio o gwmpas y ca’,
A gadael ei wingers wnaeth Sven yn ddi-fanners
Â’i drainers yn knickers Ulrika.

I asio y Saeson â goliau y galon
Mae angen rhyw Robson neu Hodgson o hyd
I danio eu dynion, i wthio’r gobeithion
I safon ‘r atgofion a gyfyd.

A heddiw, er gweiddi na allan’ nhw golli,
Fe erys yfory i’w siomi, bid siwr,
A’r wasg fydd yn gwasgu ŷnt eto fynd ati
I benodi rhyw Wali’n rheolwr.

Yn Rio bydd truan yn arfog ei garfan
Eleni’n ei ffwdan ger cwpan y co’.
Rhesymaf mai symol fydd ‘hot-bed’ y ffwtbol
Heb ganmol byth bythol – gobeithio.

Dai Jones
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud