Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y chwerw’n troi’n chwarae
(ar dôn ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’ CPJ)
Mae ’mywyd i yn ddedwydd, rwy’n fodlon ar fy myd,
Ond mae na e-bost wrth y capten sy’n fy mhoeni i o hyd.
Rwy’n syrthio mewn i’r fagl o anghofio am dded-leins
A does dim ar ôl, ond cymryd stôl, a chael peint o gwrw Brains.
Ac yna bob yn ddropyn, mae’r geiriau’n dod fel hyn.
Dwi’n dod i ddeall sut mae cael y gorau ar Ceri Wyn.
Mae’n dod yn haws creu odl wrth imi gymryd llwnc,
Ac rwy’n gwbod yn iawn bod f’Odliadur yn llawn o eiriau fel trwnc a rhwnc.
Ac mae’r chwerw’n troi’n chwarae,
Mae joch yn troi’n jôc,
Mae’r ffroth yn troi’n eiriau;
Mae’n gweithio’n well na Coke.
Ac os ydw i’n rhywle yn cael trafferth fel o’r bla’n,
Cofiaf fod chwerw’n troi’n chwarae wrth chwarae da’r Gân.
Iwan Rhys
9