Main content

Y FFORDDOLION: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion

(cân y cyfreithiwr)

O'r holl greaduriaid sy'n y tir
nid oes rhyfeddach i'w gael na dyn:
mae ganddo'r ddawn i stumio'r gwir
a’i droi i'w bwrpas ef ei hun.

Mor aml y’i gwelais, o flaen ei well,
’da golwg ddiniwed mewn siwt a thei
yn dweud mai arall sy'n haeddu cell
gan honni'n gwrtais nad oedd ar fai.

"Fe gerddodd i'm dwrn", "Nid fi piau'r coke"
"Fe'i ffeindiais ar lawr", " 'Dw i'n dweud y gwir";
"'Rwy'n hollol ddiniwed", "Mae hyn yn jôc",
"Wn i ddim sut y daeth y madarch i'm tir".

Ac 'rwy'n poeni'n aml pan ddaw dydd o bwyso
ger Y Barnwr Mawr sydd yn cofio'r cyfan
beth fydd 'na i'w ddweud er mwyn ei ddarbwyllo
nad oes reswm i'w gael am eu cadw allan.

Wedi oes o bledio rhag eu cymeryd i mewn,
bydd pledio mynediad yn dasg go ewn.
 
Dafydd Williams
8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud