Main content

PENLLYN: Telyneg neu soned 'Dieithryn'

Drws cadarn sy鈥檔 dal yn fur yn y co
Rhwng y bywyd fu a鈥檌 fwrlwm atgofion
A鈥檙 bodoli llwm tu draw iddo fo.
Rwy鈥檔 dal i guro, curo鈥檙 styllod cryfion,
Ond dim ond atsain chwithig ddaw yn 么l,
Yn 么l hyd wacter oer y coridorau.
Curaf eto, er gwybod pa mor ff么l
Fy nhaerineb dwl, ofer y curiadau.
Dieithryn wyf fi bellach yn fan hyn
Nid yw yr un a geisiaf yma mwyach.
Ond gwelaf hi yn glir, a鈥檌 llygaid syn
Yn edliw im yr haeddai hi amgenach.
Ond dro r么l tro, o gau fy llygaid innau, gwn
Y gwelaf hi fel roedd cyn y dieithrwch hwn.

Beryl Griffiths
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

48 eiliad