Chwyth Dy Drwmped gan Ll欧r Gwyn Lewis
Cerdd gan Ll欧r Gwyn Lewis yn arbennig i ddathlu Diwrnod Bandiau Pres Radio Cymru.
Chwyth dy drwmped
Chwyth dy drwmped, gyfaill,
chwyth dy drwmped dy hun,
lluchia hen nodau'r llechi
a'u hen hen hollt i ffwrdd, o'r neilltu,
chwytha holl lwch y talpiau glo
i glyw y syndod sy'n y glissando,
gyrra'r cornet i sgrechian, i godi'r to
a ninnau'n codi efo fo.
Anghofia'r llymder a thrymder angladdau,
tro fartsh y brotest yn gawdel o faddau,
byrfyfyria'r nos yn foreau,
rho inni'r naid i'n cario drwy'r nodau.
O! chwyth dy drwmped dy hun, gyfaill,
chwyth dy drwmped,
mynna roi inni dy diwn unig,
a thrwy dy fudydd, gwna i mi fudo
i le ar fy nghyfer lle gallaf anghofio,
lle mae'r bysedd bob amser yn clicio.
Tro'r chwerw heno'n chwarae,
rhwyga'r euogrwydd yn ddau,
rho i mi hyn, i'r nos barhau,
yng ngwlad y mwg a'r jazz a'r ddawns,
lle mae'r gwin ar y byrddau, siawns,
tyrd 芒 dy fwg trwy dy fegin,
chwyth, o! chwyth dy drwmped, gyfaill.
* * *
Ond wedi'r cyfan, rho diwn wahanol,
dos 芒 fi'n 么l i weld y bobol,
a hel dy alaw yn eu canol,
rholia dy rallentando,
atgoffa fi o'r andante eto,
a dewisa'r daith adagio.
Dos 芒 fi'n 么l i'r neuadd les
at frodwaith baneri, at y diffyg pres,
at ddirwest syber y gymuned nes,
o, chwyth dy drwmped,
Dos 芒 fi'n 么l i'r festri oer,
a chrafiad llwch mewn clirio poer,
i'r emyn na roddai ddewis i ddyn
er mwyn anghofio'i dynged ei hun
ond dal i chwythu'i drwmped ei hun
ond bod pawb yn gwneud, a phawb fel un.
Chwyth dy drwmped gyfaill,
chwyth dy drwmped dy hun.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 11/04/2014
-
Proffil T Gwynn Jones
Hyd: 04:55
-
Proffil Gwyn Thomas
Hyd: 11:18
-
Bore Cothi - Sgwrs Huw Chiswell
Hyd: 07:15