Main content
Mona, Ynys Môn: Gorsaf i Longau Awyr
Heddiw mae maes awyr Mona ger Llangefni ym Môn yn un o ganolfannau ymarfer i awyrennau Hawk y Llu Awyr. Ond, fel mae’r hanesydd lleol Geraint Jones yn sôn, cafodd y safle ei greu yn arbennig fel gorsaf i longau awyr yn 1915 ar gyfer gwasanaeth awyr y Llynges.
Roedd llongau awyr yn cael eu defnyddio i gadw golwg ar y glannau a sicrhau nad oedd llongau tanfor yr Almaenwyr yn ymosod o’r môr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Arfon Evans yn aelod o glwb awyr Mona ac yn egluro sut roedd y llongau awyr yn gweithio a pha mor effeithiol oedden nhw yn ystod yr ymdrech ryfel.
Mae Geraint Jones yn awdur llyfr ‘Anglesey at War.’
Lleoliad: Maes awyr Mona, ger Llangefni, LL65 4RW