Main content
Pennill Ymson mewn canolfan faddondai
‘Ma ‘na fenyw gyferbyn tua tair stôn ar ugen
Yn chwysu mwy o ddŵr na’r Niagra,
Mae’n gwenu arna i’n iach, ond, wir iti bach,
Base ishe dau bwys o Fiagra.
Yn y cornel boi mawr, yn gwlffyn o gawr,
A mwy o fysls na Bae Ceredigion,
Mae ei ‘speedos’ bach trim yn dangos pob dim
-Os nad yw e’n fawr mae e’n ddigon.
Ac rwy’n ishte’n y gwres yn meddwl pa les
Wnaeth hyn i gorff dyn ers oes Caesar,
‘Sdim pwynt o gwbwl – mae’n ormod o drwbwl,
‘Rwy’n mynd adre i ishte’n y ‘freezer’.
Dai Jonews
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 12/01/2014
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:17
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:10
-
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 00:51
-
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 01:40