C芒n Ysgafn: Yr Ymweliad.
C芒n Ysgafn: Yr Ymweliad.
鈥濧liens m鈥檡n diawl鈥, gwaeddodd Idwal, wrth faglu i far y Llew Gwyn,
鈥濪i glanio yn safle鈥檙 anabl, mae鈥檙 ddau ar eu ffordd i鈥檙 fan hyn鈥.
Y wich o'r hen ddrws derw dwbl a fferodd f锚r esgyrn bob dyn,
Ond roedd Idwal yn rong wedi'r cwbl,oherwydd d'oedd yno ond un.
Yr ias yn 'Y Llew' oedd yn ingol, llysnafodd i mewn yn ddi-hid
A gofyn i bawb yn bresennol "Be gym'rwch i'w yfed i gyd?"
Ysgwydwyd y lle gan fonllefion, croesawyd yr Eliyn i'w plith,
A hwnnw'n rhoi diodydd i'r ffyddlon a'n rhannu sigars rif y gwlith.
"Gylybygylyrg yw fy enw, rwy'n Zyth o fydysawd Gylog
Mae'n anodd i'w ddweud pan ti'n feddw, ac felly, jesd galwch fi'n Zog"
Pen dim fe ledaenodd y stori fel feirws eithriadol o chwim
"Gylybygylyrg sydd yn talu!". "Mae pob un diferyn am ddim!".
Ni welwyd eirioed y fath fwrlwm rhwng muriau profiadol 'Y Weit'
A dyma'r tro cyntaf erstalwm i'r sabath fynd heibio heb ffeit.
Nos Iau, roedd pob pwmp wedi sychu.Dim deigryn o 锚l yn y lle
Aeth Zog draw at Morus i dalu, a'r barman ddywedodd "O..o..c..锚..锚.锚..锚,
"Dwy fil, pedwar cant a dwy geiniog!" "I'r dim.Cadwa'r newid" medd Zog
Gan estyn rhyw bishyn bach sgleiniog, a dweud "Dyna chdi. Pedair Glog"
Wel, diolch i Forus 'Weit Leion' ni welwn fyth eto'r un Zyth
Aeth Gylybygylyrg efo'r afon, a baniodd bob Eliyn am byth
闯么蝉
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/07/2013
-
Ateb llinell ar y pryd:
Hyd: 00:04
-
Pennill Ymson wrth fynd mas 芒'r bin sbwriel.
Hyd: 00:08
-
Cywydd yn estyn gwahoddiad.
Hyd: 00:37
-
Englyn: Llew neu Llewod.
Hyd: 00:28