Main content

Cywydd i unrhyw gerbyd

Mawl i'r Ford Cortina Mk1 1500 sports ,model 1967.

Fy nghar cyntaf,fy afiaith
a dau yn dechrau ar daith.
Goriad oedd i gariad oes
a hafan gyrfa gyfoes.
Rhoi 'ref' rwydd cyn mynd ar frys
i nef o antur nwyfus.

Injian yn ffrwtian yn ffraeth
a'r diwn yn creu dewiniaeth
hedyn fy nyheadau.
Hwn yw'r un,hwn sy'n parhau
i danio,hwn fu'n dannwydd,
hwn yw'r car,fy mhleser cudd.

Gari Wyn
 
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad

Daw'r clip hwn o