Main content
Pennill Ysgafn: Gair o gyngor i athro neu athrawes.
Cyngor i Athro Cemeg.
Gwna roced o dy bowdrach
Un fawr i ti dy hun,
A gwthia hi i rywle
Os medru Fore Llun,
Ac yna tania fatshen
A hynny gyda sêl,
Cei fynd i Abergofiant
Rhag poeni’r oes a ddêl
Jim James
9.5