Main content

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Cerdd Rydd: Hwyrach.

(Sandy Hook)

Mae corneli’r faner yn cyrlio’n dyner
yn y gwres,
a mam yn rhoi’r het gowboi ar ei ben,
ac yn taenu’r pridd yn drwch
ar ei fochau bach.

Taflu sws, cyn rhedeg –
gyda’r byd a’i ddryll yn ei ddwrn –
i’w guddfan yn y coed.
Pop, pop, pop:
â’r bwledi’n chwerthin eu curo
wrth i’r caniau coch ddawnsio,
a chlatsho i’r llawr.
Mae e’n gwenu. Yn edrych i’r baril, a chwythu.

Mae’r faner yn crynu
uwch yr iard
a’r atgasedd yn cronni’n ei gledrau,
wrth iddo ganu’r gloch.
Rhoi mwgwd du yn daen,
Ac o wain ei wallgofrwydd

tynnu ar glicied rhy gyfarwydd.
Taflu rheg, a brasgamu
yn olion ei draed i’r gwyll.
Pop, pop, pop:
a rhes ar ôl rhes o blant
yn tasgu fel tuniau
 
yn ffrwydr o waed a dagrau
i’r llawr.
Ac mae e’n gwenu. Yn edrych i’r baril, a chwythu.

*
Rhes ar ôl rhes.
Dosbarth ar ôl dosbarth.
Baner ar ôl baner
yn hongian heno ar eu hanner.
A thithau’n dal i droi’r gwn
at dy ben dy hun.

Mari Stevens

9.5

Cyfanswm Marciau: 54.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o