Main content

Glannau Menai: Cerdd rydd neu mewn mydr ac odl, heb fod dros 18 llinell

Hwiangerdd

yw chwiban bugeiliaid y gwynt
yn corlannu awelon drwy gwrlid niwl,
a chwip y llafnau鈥檔 rhwygo鈥檔 fain
dros orwelion llwyd, lle bu鈥檙 ehedydd gynt
yn castio鈥檌 nodau i f么r o gymylau,
y tu hwnt i bob bod.

Hwiangerdd geir yn nwndwr afon
sy鈥檔 ffromi鈥檔 daer ar arffed d么l.
Yn stori ei rhawd mae s诺n ei rheg,
am i鈥榳 hynt gael ei hastu
o fynwes rhos ac o afael yr hesg.
Clyw s诺n y grisial heno鈥檔 crynu drwy鈥檙 erwau caeth,
a鈥檙 dicter yn chwalu鈥檔 deilchion
dros groen y tir.

Hwiangerdd yw鈥檙 alaw sy鈥檔 dal i鈥檔 suo
芒鈥檔 byd yn chwil, a鈥檌 grud yn siglo
ar echel cynnydd, a鈥檙 llanw鈥檔 curo
芒 gwawd yn ei ddwrn, a ninnau鈥檔 huno.

Elinor Gwynn

9.5

Cyfanswm Marciau Glannau Menai: 52

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o